YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mereher, gerbroii Mri. Maurice Jones (Cadeirydd), W. Anthony, Dr Gwenogfyn Evans, Mri W Thomas, W. W. Griffiths, J. Hughes Parry, J. G. Jones.

DIRWY DROM.

Cyhuddwyd Ellis Jones. North Street, Pwliheli, o brynu swm dan y pwysau gofynol o blwm ac hefyd o'i brynu gan fachgen dan 16 mlwydd oed.

Ymddangosodd Mr. Cradoc Davies ar ran y diffynydd, yr hwn a eglurodd fod y ddeddf yn darparu nas gellid prynu hen blwm yn symiau o dan 112 pwys tra fod y diffynydd wedi prynu 78 pwys. Yr oedd wedi gwneyd pob ymchwiliad i edrych a oedd y bachgen wedi cael y plwm yn onest, ac yr oedd wedi talu y pris arferol i'r bachgen amdano.

Yr oedd gan y diffynydd dri o fechgyn yn ei gynorthwyo yn y busnes, ond yr oedd y tri wedi ymuno a'r fyddin, ac felly yr oedd mewn anhawsder i gario ei fusnes yn mlaen. Addefai ei euogrwydd, a dymunai am drugaredd y fainc.

Dirwywyd ef i 5p yn yr achos cyntaf, yn cynwys y costau, ac i dalu 5s o gostan yn yr ail gyhuddiad, ac hefyd archwyd iddo i gofrestru ei le i'r pwrpas o brynu plwm, etc.

Herald Gymraeg 22/12/1914