WEDDING.
The marriage was solemnized at Llannor Parish Church on Tuesday between Dr. S W. Griffith, J.P., the Hermitage, and Miss Jane Ellen Jones, Rhyllech Farm.The bride, who was given away by her brother. Mr. John Jones. Rhyllech was attended by her sister, Miss Catherine Jones, as bridesmaid, and the best man was Mr. R. J. George, Carnarvon.
The ceremony was performed in the presence of a large congregation by the Revs. T. Shepherd-Jones, rector of Llannor; J. Edwards, vicar; and T. Woodings, curate of Pwllheli. Appropriate music, including the "Wedding March" was played on the organ by Miss Shepherd Jones. The Church was beautifully decorated and there was also a lavish display of decoration in Llannor and Efailnewydd villages and in Pwllheli town in honour of the event.
The reception was held at the Castle Hotel Pwllheli, among those present being Mr and Mrs. E. J. Griffith, and the Misses Helena and Palmyra Griffith, Caroline-square; Miss Williams, Penstumllyn; Miss Roberts, Tanrallt. and Mrs Winslow, New-street.
The newly-weds had to run the gauntlet of showers of rice and confetti at Llannor and Pwllheli. They left for London for the honeymoon.
They have received numerous presents.
Cambrian News 17/04/1914
PRIODAS URDDASOL.
Dydd Mawrth, yn Eglwys Blwyfol Llanor, priodwyd Dr. S. W. Griffiths, U.H., Hermitage, Pwllheli, a Miss Jane Ellen Jones, Rhyllech Farm, Llanor, yng nghanol bri a rhwysg mawr. Yr oedd yr eglwys yn orlawn o edrychwyr, y rhan fwyaf ohonynt wedi cerdded o Bwllheli yno, pellder o bedair milldir.Gwasanaethiwyd ar y priodfab gan Mr. R. J. George, Caernarfon, ac ar y briodasferch gan ei chwaer, Miss Catherine Jones. Gweinyddwyd gan y Parchn. ,L Edwards, Ficer Pwllheli; Shepherd Jones, Ficer Llanor, a T. Woodings, Curad, Pwllheli. Dad- ganwyd gan gor yr eglwys, Miss Shepherd Jones yn cyfeillo, ac yn chwareu yr anthem briodasol. Yna mwynhaodd y par priodasol a nifer o wahoddedigion foreubryd yn y Castle Hotel, rhoddedig gan Mr. a Mrs. Jones.
Yn ychwanegol at y rhai a enwyd yr oedd yn bresenol Mr. a Mrs. E. John Griffiths, a'r plant, Mrs. Winslow, Pwllheli; Mr. John Jones, Llanor; Mrs. Williams, Criccieth; Miss Roberts, Tanrallt, Abererch. Yr oedd y dref wedi ei harwisgo a banerau a hebryngwyd y par priodasol i'r orsaf gan dyrfa fawr.
Aethant i dreulio eu mis mel i Lundain. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a drudfawr, yn cynwys rhoddion gan weithwyr Carreg yr Imbyll, Cymdeithas y Coedwigwyr, a dosbarth Ysgol Sul y priod fab yn Eglwys St. Pedr.
Herald Gymraeg 21/04/1914
PRIODAS.
Fore Mawrth gwelwyd S. Wilbraham Griffith. Y.H. yng nghwmni Mr. R. J. George, Caernarfon, yn cyrchu at Lanor, ac yn myned i'r Eglwys yno. Yn ddiweddarach. dyma Miss J. E. Jones, merch i diweddar Robert Jones, Rhyllech Uchaf, yng nghwnmi ei chwaer, Miss C. Jones, yn cyrraedd yr un lle.Yna dyna gylymu ym myned ym mlaen, y Doctor yn cael ei rwymo i fod yn ŵr i Miss Jones, a Miss Jones yn cael ei rwymo i fod yn wraig i r doctor, a'r ddau gan lloned ag y buout erioed pan seliwyd y cwlwm â modrwy o aur pur.
Canodd y côr, Mrs Shepperd Jones yn chwareu yr organ. Y Parch. T. E. Shepperd Jones wasanaethai. Yn y Castle Inn yr oedd y wledd.
Ar ôl hyny aeth Dr. a Mrs. Wilbraham Griffith hefo'r tren i Lundain. Ymddengys y farddoniaeth yn Y Werin.