COLLI CYFALLL GWEITHGAR.

Mae Mr. Tom Jones, o'r Hermitage, wedi symud i wasanaethu mewn sefydliad yn Bexley, Kent.

Bu yn ŵr llafurus iawn gyda'r ysgol Sul yn y tloty, ac yn weithgar iawn gyda Chymdeithas y Coedwigwyr.

Bu i athrawon ysgol Sul y tloty gyflwyno ffon eboni hardd yn anrheg iddo fel cydnabyddiaeth am ddeuddeng mlynedd o lafur fel arolygwr.

Herald Gymraeg 12/01/1915