YN DIODDEF ODDIWRTH Y NWY GWENWYNIG.
Mewa llythyr gartref i'w rieni. Mr a Mrs Griffith Roberts. Ty'n Twll, Pwllheli, dywed Private Sam Roberts, perthynol i'r 1-6ed Fataliwn y Royal Welsh Fusiliers, yr hwn sydd yn Ffrainc. ei fod yn awr mewn ysbyty yn dioddef oddiwrth y nwy gwenwynig.Yr Herald Gymraeg 21/09/1915
MARWOLAETH.
Yn blygeiniol foreu Sadwrn, ar ôl cystudd maith a blin, bu farw Mr Griffith Roberts, Ty'ntwll, Denio, ac efe yn 44 mlwydd oed. Dioddefodd waeledd mawr yn dawel a digwyn.Yr oedd yn gymeriad addfwyn a diymhongar, ac yn briod a thad tyner. Hoffid ef gan bawb ddeuai i gyffyrddiad ag ef, a bydd ei golli yn siom iddynt.
Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd anghyhoedd, heddyw (dydd Mercher) yn mynwent Denio.
Cydymdeimlir a'i briod ac a'i blant bach amddifaid yn nyfnder eu profedigaeth a'u hiraeth am dano.