MARWOLAETH.

Ddydd Sadwrn, y 10fed cyfisol, bu farw Jennie Jones, merch Mr a Mrs John Jones, Ty'r Fynwent, Denio, yn 21ain mlwydd oed.

Cafodd gystudd maith a blin. Rhoed ei gweddillion i orffwys yn mynwent Denio, ddydd Mercher. Gwasanaethwyd gan y Parch D. Thomas, gweinidog Seion (W) a Mr Joseph Jones, Nefyn.

Teimla'r teulu yn ddiolchgar iawn i'r rhai a ddangosasant eu cydymdeimlad dwfn a hwy yn eu profedigaeth lem. 

Yr Udgorn 21/05/1913