MARW CAPTEN.

Ddydd Mercher bu farw Capten William Thomas, Caeau Brychion, yn 76ain mlwydd oed.

Cafodd waeledd maith. Bu yn mordwyo am haner can mlynedd, ac ymneillduodd tua chwe mlynedd yn ôl.

Brodor o'r Felin Heli ydoedd, a chleddir ef heddyw (ddydd Mawrth) yn Llanfair-is- gaer. Gwasanaethid gan y Parch. J. Rhydderch, a gofelid am drefniadau'r angladd gan Mr. Edward Williams, Shop Glasfryn.

Cydymdeimlir â gweddw unig y trancedig.

Yr Udgorn 08/09/1915