MARWOLAETH.
Nos Sadwrn, wedi cystudd byr, bu farw Mr John Hughes, Pendalar, ac efe yn 46 mlwydd oed. Nid oedd yn dda ei iechyd er's blynyddoedd, ond ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos. Dioddefodd ei hir waeledd yo dawel a gwrol. Cymeriad diymhongar a hoff gan ei gydnabod ydoedd.Ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf cafodd brofedigaeth drist o golli ei fab - yr hwn oedd un o ddwylaw anffodus yr agerlong "Canganian," a suddodd ar draethau'r Ysgotland, - a diau i'r amgylchiad hwn fyrhau ei ddyddiau ar y ddaear. Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd cyhoeddus, yn mynwent Denio ddydd Iau nesaf.
Cydymdeimlwn yn fawr a'i briod a'r plant bach yn eu profedigaeth chwerw.