DAMWAIN.

Tra yn dilyn ei oruchwyliaeth gyda'r peiriant malu blawd yn melin Mr. Samuel Lloyd, Bee Hive, ddydd Llun diweithaf, aeth llaw Griffith Jones, Brynarlais, yn ddamweiniol i'r peiriant a derbyniodd niweidiau tost.

Bu raid tori un o'i fysedd ymaith, ac y mae ei law wedi ei hysigo drwyddi.

Yr Udgorn 29/01/1913


MARW TRIST.

Ddydd Iau, wedi byr gystudd, bu farw Mr. Griffith Jones, Bryn Arlais, Penrallt, ac efe yn 45 mlwydd oed.

Yr oedd yr ymadawedig yn weithiwr diwyd a llwyddianus iawn fel tyddynwr, a llwyddodd trwy ei ddyfalwch i gael lle mwy cydnaws a'i adnoddau gwaith fel amaethon. Hoffid ef yn fawr fel un diymhongar mewn cymdeithas, a bydd ei gyfeillion mynwesaf yn drist o'i golli mor gynar.

Cymerodd, ei gladdedigaeth le, yr hon oedd gyhoeddus i ddynion yn unig, ddydd Llun yn mynwent newydd Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, The Elms.

Cydymdeimlwn yn ddwys a'i briod unig yn ei galar dirfawr.

Yr Udgorn 28/08/1918