Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher.Gerbron Mri. J. G. Jones (cadeirydd), Maurice Jones, P. M. Ellis, William Thomas, J Hughes Parry, W. W. Griffith, a Dr. Gwenogfryn Evans.

Erlynai Arolygydd y Bwydydd Henry Lloyd, Tai Cochion, Pwllheli, a Richard Lloyd, ei fab, o ladd defaid heb sicrhau trwydded. Hefyd erlynid Henry Lloyd Lloyd gan Mr. Charles Lloyd Roberts, yr Arolygydd Trefol, am ladd defaid yn y beudy yn lle y lladd-dy cyhoeddus.

Eglurai Mr. E. R Davies, yr hwn a erlynai, ei fod yn drosedd i ladd anifeiliaid y tu allan i'r lladd-dy cyhoeddus. Hefyd yr oedd yn angenrheidiol cael trwydded gan Bwyllgor yr Ymborth i fasnachu mewn cig, ac yr oedd yn ofynol cadw cyfrif o'r cyfryw fasnach.

Daeth y Pwyllgor i ddeall fod y diffynydd yn lladd defaid ac yn gwerthu eu cig i Mr. Finch o Birkenhead. Yr oeddynt yn gwerthu tua 60 pwys yr wythnos.

Tystiai Mr. C. Lloyd Roberts, yr Arolygydd, ei fod wedi myned i weled y diffynydd, ac iddo gyfaddef fod defaid yn cael eu lladd mewn beudy yno, a'u gwerthu i Mr. Finch. Dywedai mai y diffynydd Richard Lloyd oedd yn lladd y defaid. Yr oedd Mr. Henry Lloyd yn analluog i fyned o'r tŷ ar y pryd oherwydd gwaeledd.

Cadarnheid hyn gan y Rhingyll Lloyd. Dywedai Mr. T. Llewelyn Jones, yr Arolygydd, nad oedd Mr. Lloyd yn anfon y defaid i'w graddoli, ac felly yn osgoi talu 5s. y pen am raddoli.

Dirwywyd Henry Lloyd i 10s. a'r costau am droseddu y man-ddeddfau trefol trwy ladd y tuallan i'r lladd-dy, a 5s. am droseddu y deddfau ymborth.

Dirwywyd Richard Lloyd i 5s., a theflid y cyhuddiadau eraill allan. Gwrthodwyd caniatau y costau cyfreithiol.

Yr Udgorn 27/03/1918