MARWOLAETH.
Y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth un o drigianwyr hynaf y dref, sef Mrs Jane Williams, Ivy House, yr hyn a gymerodd le ddydd Llun diweddaf, yn 81 mlwydd oed.Hanai o deulu parchusaf y dref, ac yr oedd iddi hithau air da gan bewb a'i hadwaenai. Yr oedd yn dod o dras ac o gyff nid anenwog yn mysg Wesleaid Cymreig, a chadwodd yr enw yn ddilychwin trwy ei ffyddlondeb diball i'r achos.
Byr fu ei chystudd, a daeth y diwedd yn dra disymwth. Cleddir (angladd anghyhoedd) dydd lau nesaf yn mynwent Denio.
Cydymdeimlir a'i dwy ferch ac a'r perthynasau oil yn eu galar dwfn.