DEWIS MR. RICHARD ROBERTS YN FAER.
Mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor Trefol nos Iau, dan lywyddiaeth Dr. R. Jones Evans, darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Hugh Pritchard (Maer) yn gwrthod ymgymeryd a'r Faeroliaeth y flwyddyn nesaf.Diolchodd Mr. Pritchard i'r Cyngor am gynnyg yr anrhydedd iddo ond teimlai nad oedd yn deg iddo ddal yr anrhydedd tra'n analluog i gyflawni'r gwaith. Er yn mwynhau gwell iechyd yn awr ofnai na byddai yn abl am rai misoedd i ymgymeryd a dyledswyddau y swydd ac felly gofidiai orfod gwrthod y gwahoddiad. Yn wyneb yr amgylchiadau pasiodd y Cyngor i dderbyn gwrthodiad Mr. Pritchard.
Yna ar gynhygiad Mr. E. Jones Griffiths yn cael ei gefnogi gan Dr. O. Wynne Griffiths, pasiwyd yn unfrydol i ofyn i Mr. Richard Roberts, Hope House, i ymgymeryd a'r Faeroliaeth am y flwyddyn nesaf. Deallwn fod Mr. Roberts wedi cydsynio i dderbyn y swydd. Mae'n debyg na bu benodiad mwy poblogaidd fawr erioed. Mae Mr. Roberts yn foneddwr poblogaidd a charedig, bob amser yn barod i gynorthwyo'r gwan a'r diamddiffyn ac yn sicr bydd llawenydd cyffredinol yn y dref o ddeall fod boneddwr o'i safle wedi cydsynio i lenwi'r gadair Faerol am y flwyddyn nesaf.
Penodwyd Dr. R. Jones Evans, Mr. Hugh Pritchard. a'r Clerc i fyned at Mr. Roberts i ofyn iddo ymgymeryd a'r swydd.