MARW BONEDDIGES.

Nos Sul diweddaf bu farw y foneddiges adnabyddus Mrs. Roberts, priod Mr. Richard Roberts, Cyfreithiwr, Hope House, a hi yn 88 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs. Roberts yn un o'r boneddigesau mwyaf hael a rhydd ei chalon a feddai y dref, a'i thosturi at y tlawd a'r diamddiffyn yn ddiarhebol. Cyfranodd yn belaeth, fel ei phriod haelionus, i amryw o sefydliadau dyngarol, ac ni fu yn ôl ychwaith o drosglwyddo symiau anrhydeddus i achosion crefyddol y dref a'r cylch. Perthynai iddi nodweddion arbenig ei hun, ac edmygid unplygrwydd ei chymeriad gan bawb.

Bydd colled dirfawr ar ôl y fath gymwynasydd a hi o'n mysg.

Cymer ei chladdedigaeth le, yr hon fydd anghyhoedd, yn mynwent Llannor ddydd Gwener.

Mae ein cydymdeimlad llwyraf â Mr. Roberts, ei phriod poblogaidd, yn nyfnder ei brofedigaeth lem.

Yr Udgorn 25/12/1918