MARW MR R. GRIFFITH, CROWN HOTEL.
Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth Mr. R. Griffith, Crown Hotel, yr hyn gymerodd le yn Mettws-y-Coed, ddydd Sul diweddaf.Nid oedd Mr. Griffith yn ei gyflawn iechyd ers amser, ac aeth ef a'i briod ychydig ddyddiau'n ôl i Fettws-y-Coed er lles ei iechyd.
Roedd yn 75 mlwydd oed. Cymer yr angladd le ddydd Mercher nesaf - anghyhoedd.
Cydymdeimlir a'i briod a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth.