LLYS SIROL PWLLHELI.

ERLYN TAFARNWYR YM MHWLLHELI.

Cynhaliwyd ynadlys arbenig ym Mhwllheii dydd lau, pryd yr erlynwyd dau drwyddedwr o dori y deddfeu trwyddedol trwy roddi diod i'r milwyr yn anghyfreithiol.

Yr oedd Mri. J. G. James, G. Hughes Roberts, a Dr. R. Jones Evans ar y fainc.

RHOI DIOD I FILWR MEDDW.

Cyhuddwyd Richard Jephreys, milwr perthynol i'r R.F.A., o fod yn feddw yn y Star Inn hanner awr wedi tri ar y 14eg mis hwn.

Tystiodd yr Arolygydd Owen ei fod wedi myned i'r tŷ y dyddiad dan sylw a gweled Jephreys yn eistedd yn feddw yn yr ystafell gefn a glasiaid o wisci o'i flaen. Pan alwodd ef sylw y trwyddewr i'w gyflwr bu i'r milwr geisio yfed y ddiod ond yr oedd yn rhy feddw i'w orffen. Galwodd ef sylw y trwyddedwr at gyflwr y milwr.

Dywedodd mai newydd ddod i't tŷ yr oedd y milwr, a rhaid ei fod yn feddw yn dod i mewn.

Yr oedd y Sergt. Major Woodcroft yno gydag ef, a bu iddo ef alw plismyn y milwyr a'i gynorthwyo i fyned allan.

Cydnabyddai y milwr ei fod yn euog a dirwy wyd ef i 10s.

DIRWYO'R TAFARNWR.

Cyhuddiwyd yn nesaf, Evan Jones, Star Inn, Pwllheli, o roddi diod i berson meddw, ac o ganiatau meddwdod yn ei dŷ.

Ymddangosodd Mr. William George i erlyn ar ran yr heddlu a Mr. John Humphreys, Porthmadog, i amddiffyn.

Tystiodd yr Arolygydd Owen ei fod ef a Sergeant-Major Woodcroft wedi myned i'r tŷ. Yr oedd yno bump o filwyr i mewn ac yr oedd y milwr Richard Jephreys yn feddw, a bu raid i'r milwyr gynorthwyo ef i'r gell. Yr oedd y trwyddedwr wedi dweyd wrtho ef os oedd y milwr yn feddw yna rhaid ei fod yn feddw yn dod i mewn. Cadarnhawyd y dystioiaeth uchod gan Sergeant-Major Woodcoft, yr hwn a dystiodd i'r milwr roddi enw anghywir iddo ar y pryd.

Tystiodd Evan Jones, y diffynydd, nad oedd y milwr yn feddw yn ei farn ef. Daeth i mewn gan ofyn am ychydig wisci i olchi ei enau gan ei fod wedi bod yn tynu ei ddanedd. Bu iddo olchi ei enau ag un glasiaid a rhoddwyd glasiad arall iddo i'r un pwrpas. Yn ateb i Mr. William George, dywedodd na buasai ef yn dweud fod y milwr yn feddw. Nid oedd angen gymorth y milwvr i fynd ag ef allan o gwbl. Yr oedd ei wedi cael cyfarwyddyd yn mis Chwefror i beidio rhoddi diod i'r milwyr yn ystod oriau arbenig Nid oedd yn wir fod yno bedwar o filwyr eraill yn y tŷ ar y pryd.

Tystiodd Miss Annie Jones, merch y diffynydd fod y milwr wedi dod yno i ofyn am wisci i olchi ei enau ar ôl tynu ei ddanedd. Ni bu yno ond rhyw ddeng munyd. Cydnabyddai fod yno bedwar o filwyr eraill yno, ac nad oedd yr hyn ddywedodd ei thad yn wir. Edrychai y dyn yn sobr pan yn dod i mewn heddiw ond yn feddw ar ôl myned allan. Yr oedd yn gwybod eu bod wedi cael eu cyfarwyddo i beidio rhoddi diod i'r milwyr ar oriau arbenig. Wedi ymneillduo bu i'r fainc ei ddirwyo i 1p. yn mhob achos.

Cyhuddwyd trwyddedwr y Star Inn ymhellach o werthu neu gyflenwi gwirodydd yn oriau gwaharddedieg trwy ganiatau i Miss Lizzie Wesley, cogyddes yn y Tower Hotel. ddod i'r tŷ tua 7-30 y boreu i'r pwrpas o gael diodydd meddwol. Eglurodd Mr. George nad oedd ganddynt hawl i werthu diodydd cyn naw y boreu.

Tystiodd yr Heddwas Hughes iddo weled Miss Wesley yn mynd i'r Star Inn trwy ddrws yr ochr. Aeth yntau i mewn, ac yr oedd gan Mrs Jones lasiad o wisci wedi ei baratoi i'r gogyddes. Nis gwelodd hi yn yfed y wisci,

Tystiodd Mrs. Jones mai hi roddodd wahoddiad i Miss Wesley i ddod i'r ty i gael tropyn bach o rywbeth gan ei bod yn cwyno nad oedd yn iach. Nid oedd yn bwriadu gwerthu y wisci, ond ei roi iddi am ei bod yn cwyno. Daeth i mewn trwy ddrws y ffrynt gan ei bod hi yn golchi cerryg y drws ar y pryd.

Rhoddwyd ddirwy o lp yn yr achos hwn hefyd, yn gwneyd cyfanswm o 3p.

ACHOS Y GOGYDDES.

Cyhuddwyd Lizzie Wesley, cogyddes y Tower Hotel, o fod yn y Star Inn gyda'r amcan o geisio diod yn ystod oriau gwahrddedig, sef 7-30 y boreu y 19eg o'r mis hwn. Dywedodd mai cael gwahoddiad i'r lle a ddaru.

Rhoed tystiolaeth gan yr heddwas Hughes a dirwywyd hi i 5s.

Yr Herald Gymraeg 29/06/1915