MARW MASNACHWR.

Nos Iau bu farw Mr J. Baldwin Jones, fferyllydd, Heol Fawr, ar ôl cystudd maith, ac efe yn 52 mlwydd oed.

Yr oedd yn fab i'r diweddar Barch Francis Jones, Abergele, a daeth i'r dref hon i gadw busnes tuag ugain mlynedd yn ôl. Collodd ei briod flynyddau yn ôl, a bu farw ei frawd a'i dad yn lled ddiweddar.

Dydd Llun hebryngwyd ei weddillion i orffwys gyda'i briod yn mynwent Abererch anghyhoedd oedd yr angladd. Y prif alarwyr oeddynt: Miss Jones, chwaer; Parch. E. P. Jones, B.A Caerdydd, brawd, ynghyd a Miss Jones, Gwyddonfa, chwaer ynghyfraith. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch T. Williams, Penmount, ac yn yr eglwys ac wrth y bedd gan berson y plwyf.

Yr oedd rhybudd wedi ei roddi eu bod fel Ymneillduwyr yn dymuno cael claddu o dan y drefn newydd, ond gomeddwyd y cais ar yr esgus fod Mr Jones yn byw allan o'r plwyf, er fod ei briod wedi ei chladdu yn y fynwent.

Cyn ymadael oddiwrth y bedd rhoddwyd anerchiad byr gan y Parch. Thomas Williams. Pa bryd y daw'r adeg y caiff Ymneillduwyr gladdu eu meirw yn mynwent y plwyf gan eu gweinidogion eu hunain, ac nid gan estroniaid ?  

Yr Udgorn 13/10/1915

ANGLADD FFERYLLYDD.

Dydd Llun claddwyd gweddillion y diweddar J. Baldwin Jones, fferyllydd, High Street, yn mynwent Abererch, y Parch. Thomas Williams, Pwllheli, a'r Ficer yn gwasanaethu.

Y prif alarwyr oeddynt Miss Jones (chwaer), Miss Jones Gwyddonfa (chwaer-yn-ngyfraith), Parch. E. P. Jones, Caerdydd (brawd).

Yr oedd hefyd yn bresenol Dr. O. Wynne Griffiths, Mr. S. Lloyd, Beehive; Mr. S. Williams, Tanygarn; Owen Owens, Aelybryn; Wm Lewis, Leeds House; J. Williams, The Elms; Llew. Ellis, printer, a Thos. Williams. Pwlldefaid (trefnydd).

Bu i'r Parch. Thomas Williams roddi anerchiad ar lan y bedd ar ôl i'r Ficer ymadael.

Yr Herald Gymraeg 19/10/1915