Llys Ynadon Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mercher Gerbron Dr. S. W. Griffith (yn y gadair), Mr. Maurice Jones. Mr. G. Hughes Roberts, Dr. Gwenogfryn Evans, Dr. O. Wynne Griffith, Mr. J. Hughes Parry, a Mr G. Cornelius Roberts.HELYNT Y COFRESTRU'R BWYDYDD.
Cyhuddai yr Arolygydd Owen y personau canlynol am beidio a chadw rhestr o'r prydau bwyd a gyflenwir gauddynt yn eu tai, Mary Walis Thomas, Gwalia Restaurant, William Jones, Eifl Temperance Hotel, Robert Hughes. London Temperance Hotel, a Julien Hohtnburg, West End Hotel.Rhoed tystiolaeth gan y Rhingyll Lloyd i'r perwyl ei fod wedi cyflenwi y tai bwyd a'r gwestai yn y dref â chopi o'r archeb ar Awst 27ain. Ymwelodd â thai y diffynyddion ar Hydref 13eg, a chafodd nad oeddynt yn cadw rhestr o'r prydau yn briodol. Dywedai Mrs. Walis Thomas ei bod hi yn cadw rhestr o'r prydau a gyflenwid, ond fod y Rhingyll Lloyd wedi dweyd fod yn rhaid eu cadw mewn llyfr pwrpasol, ac addawodd roddi archeb am un iddi, ond nis cafodd ef eto. Yr oedd cymaint o archebion yn cael eu gwneud, a'r rhai hyny mor anhawdd i'w deall, fel yr oedd yn anhawdd iawn i neb eu cadw.
Rhoed tystiolaeth yn achos Julien Hohenberg gan Mr. Vaughan Davies, yr hwn a ddywededd ei fod ef a Mr. Hughes, Arolygydd y Bwydydd dros Ogledd Cymu, wedi galw yno. Dywedodd y diffynydd wrtho ei fod wedi cychwyn cadw y rhestr, ond ei fod wedi ei dinystrio. Dywedodd Mr. Hohenburg nad oedd yn bosíbl i ddyn oedd heb gael addysg golegawl lunio y rhestr (chwerthin).
Yr oedd yn gofyn am y fath fanylion fel nac oedd yn bosibl i ddyn cyffredin eu cyflenwi. Yr oedd ef oherwydd prysurdeb a rhy fychan o wasanaethyddion wedi taflu y gorchwyl i fyny.
Ymddangosai Mr. Hugh Pritchard ar ran William Jones, a dywedal fod y diffynydd o dan yr argraff nad oedd angen iddo ef gadw y rhestr, am ei fod wedi cau i fyny yr adran i wneud bwyd i'r cyhoedd oherwydd y rhyfel. Pan gafodd allan ei fod yn gyfrifol prynodd y rhestr ar unwaith. Yr oedd yr archeb wedi ei chywiro dair gwaith yn ddiweddar, ac yr oedd yn annawddu i'r dyn cyffredin ei deall. Nid oedd Robert Hughes yn bresenol.
Dywedodd y Cadeirydd fod yn bwysig cadw y rhestr yn wyneb prinder ymborth. Gorchymynwyd i'r diffynyddion dalu 5s yr un, sef y costau.