CLADDEDIGAETH.

Prydnawn Iau diweddaf cludwyd gweddillion y diweddar Mr. William Davies, Ironmonger, i orphwys yn ei hir gartref i fynwent newydd Denio.

Yr oedd yr angladd o dan y drefn newydd, ac yn gyfyngedig i feibion yn unig.

Wele yn canlyn drefn yr angladd : Yr Hearse; Cerbyd 1af, Miss A. Davies, Miss Lizzie Davies, Mr. G. H. Williams, Mrs. Capt. Evans, Mrs. Capt. Seaborn Davies; 2il Gerbyd. Mr. a Mrs. John Jones, Lerpwl, Mrs Williams, Hywyn, Capt. Evans, Craigmor, Mr. G. H. Williams, Bethesda; 3ydd Cerbyd, Capt. Edwards, Nefyn; Mr. John Parry, Nefyn, Mr. John Davies, Pencaenewydd, Miss Williams, Nevin, Mrs. a Miss Lunt, Llandudno, Mr. a Mrs. Jones, Birkenhead; Y gweinidogion a'r blaenoriaid, a'r cyhoedd yn dilyn.

Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. Edward Jones, Eglwys Bach, a W. G. Hughes, Criccieth yn y capel yn Denio gan y Parchn. Edward Jones, J. Puleston Jones, M.A., a J. Rhydderch, ac ar Ian y bedd gan y Parch. D. Thomas.

Yr oedd yn angladd lluosog a pharchus.

Yr undertaker ydoedd Mr. David Williams, Shop Pwlldefaid. Nos Sul yng nghapel Seion traddodwyd pregeth goffa ar ei ôl gan y Parch Hugh Jones, D. D., Bangor, a chwareuwyd y Dead March ar yr offeryn gan Miss Lizzie Violet Owen, Carnarvon Road.
 

Yr Udgorn 29/01/1913