PRIODAS HARDD.

Fore Mercher diweddaf, yn nghapel Annibynwyr Criccieth, unwyd mewn priodas Mr Owen H. Roberts, Eifl Boot Stores, a Miss Lizzie Ellis, merch Mrs Ellis a'r diweddar Mr Thomas Ellis, 13, High Street.

Gwasanaethwyd ar y priodfab gan Mr Robert Ellis, brawd y briodferch, ac ar y briodferch gan Miss Mary Roberts, chwaer y priodfab. Rhoed y briodferch ymaith gan ei brawd hynaf, Mr John Ellis, Cyfrifydd y Fwrdeisdref.

Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch J. Rhydderch.

Mwynhawyd gwledd briodasol yn Llys Caradog, Criccieth, ac yn ychwanegol at y rhai a enwyd uchod yr oedd yn bresenol Capt a Mrs Roberts, Porthmadog Capt. Jones, Criccieth; Miss Ellin Ellis, Fflint; Miss Katie Ellis, Pwllheli; Miss Helen Whitchurch, Caergybi, a Miss Roberts, Porthmadog.

Aeth y par ieuanc am felus wyliau i Lerpwl.
 

Yr Udgorn 22/07/1914