MARWOLAETH.
Gyda gofid dwys y cofnodwn farwolaeth Mrs. Florence Masterman Edwards, anwyl briod y Parch. J. Edwards, ficer Eglwys St. Pedr, yr hyn gymerodd le am haner awr wedi chwech nos Sadwrn diweddaf, a hi'n 42 mlwydd oed. Dioddefodd Mrs. Edwards gystudd maith a llym iawn. Bu o dan weithred law-feddygol oddeutu blwyddyn a haner yn ôl, ond ofer fu pob triniaeth a gofal.Yr oedd yn foneddiges nodedig o gymeradwy.
Cleddir yn mynwent Bassaleg, Newport, Mynwy, yforu (ddydd Mercher). Cynhelir gwasanaeth yn Eglwys St Pedr am bump o'r gloch y bore, pryd y cymerir rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. David Jones. B. A., ficer Abererch y Parch. T. Sheppard Jones. ficer Llannor, a'r Parch. T. Woodings, ciwrad. Wedi hyny angladd cyhoeddus i'r Orsaf - y cor yn eu gwenwisgoedd yn arwain yr orymdaith.
Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad â Mr Edwards yn ei brofedigaeth lem gan bob eglwys yn y dref nos Sul.
Yr Udgorn 08/07/1914
ANGLADD MRS. EDWARDS, Y FICERDY.
Dygwyd corff Mrs. Edwards, priod y Parch. J. Edwards, B. A., y Ficerdy, gyda'r tren cyntaf fore Mercher diweddaf i'w roi i orffwys yn mynwent Basaleg, Casnewydd, Mynwy.Am bump o'r gloch y bore cynhaliwyd gwasanaeth yn Eglwys St. Pedr, ac er cynhared yr awr a thrymed y gwlaw yr oedd yr Eglwys yn orlawn. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. D. Jones, B. A., ficer Abererch, Parch. T. Sheppard Jones, ficer Llannor, a'r Parch. T. Woodings, B.A., ciwrad, a chan gor yr Eglwys. Chwareuwyd y Dead March ar yr Organ gan Mr. W. H. Benskin. Y Parch. J. Edwards, B.A. (priod) a'i gefnder, y Parch. Cynfelin Jones, Nefyn, oedd y prif alarwyr. Cludwyd yr arch ar elor i'r orsaf, y cor a'r clerigwyr yn cerdded ar y blaen, y prif alarwyr o'r tu ôl i'r elor, a'r dorf yn dilyn.
Derbyniwyd pleth-bwysiau oddiwrth y rhai a ganlyn Esgob Bangor a Mrs Williams; Mrs. Williams-Ellis, Glasfryn Hall; Mr. a Mrs. W. H. Benskin, Penlleiniau; Mr. a Mrs. Breen Turner a'r teulu, Talcymerau; Mr. a Mrs. Hugh Jones, Castle Hotel; Cymrodorion ac aelodau Cymdeithas Gyfeillgar y Merched; Mrs. Dawson, Oakley House; Mr. a Mrs. Arthen O. Owen, Plas Heulog; Miss Voller, Cardiff Road; Mr. a Mrs. Evan Jones, North Street; Mrs. Jones, Tower Hotel; Mrs. Winslow, New Street; Mr. a Mrs. J. Alkin; Miss Williams, Bryncrin; Mr. a Mrs. Hughes a'r teulu, Nurseries; Mrs. Corfield a'r teulu, Carno; Miss Astley, Carno; Ysgol Sul St. Pedr; Mr., Mrs. a Miss Thomas, St. Peter's Terrace; Mr. a Mrs. E. J. Griffith, Caroline Square; y Parch. a Mrs. Cynfelin Jones, Nefyn; Mr. a Mrs. Rich. Roberts, Market Square; Mr. a Mrs. Morgan a'r teulu, North Street; Misses P. a D Hughes, Tudno Temperance; Mrs. Perkins, Bodegroes; Major a Mrs. Edridge, Abererch; Mrs. Jones, Borthwen; Mrs. Picton Jones a Sheilah, Yokehouse; Plant ac athrawon Ysgol Penlleiniau; Miss M. C. Jones, Llys Pedr; Mrs. Cooke Thomas, Lleyn Street; Miss M. L. Williams, New Street; Mr. a Mrs. Thomas a'r teulu, New Street; Dr. a Mrs. Evans, Garth, Abersoch; y Parch. a Mrs. Sheppard Jones, Llannor; Mr. a Mrs. W. H. Pritchard, Caeau gwynion; Mrs. H. J. Thornley, ficerdy Thornley; Teulu 66, High Street; y Parch. T. Woodings, B A.; Miss Jones, St. Tudwall's Terrace; Teulu Glyn Temperance Hotel; Mrs. Edwards, Rhosbach; y Parch. a Mrs. H. J. Manley, Llanbedrog; Mr. T. Wilkinson, Cliff House; Mrs. a Misses Evans, Brynberllan; Mr. a Mrs. Jones, Cartrefle; Mr. a Mrs. G. Williams, Tylorstown; Aelodau Undeb Mamau; Mr. a Mrs. Bradley a'r teulu, Carno; Mr. a Mrs. Whiteley, Ilkley; Mamaeth a morwynion y Ficerdy; y Parch a Mrs. D. J. Jones, Llanwnda; y Parch. J Lodwick Davies, Bryncroes.
M r. D. Williams, Shop Pwlldefaid, ofalai am y trefniadau.
Yr Udgorn 15/07/1914