WEDI EI GLWYFO.

Cafodd Mr W. O. Hughes, London City and Midland Bank, Llandudno (gynt Metropolitan Bank, Pwllheli), hysbysrwydd o'r Swyddfa Ryfel fod ei fab, Captain Artie Price Hughes wedi cael ei glwyfo yn ddifrifol yn ei wddf yn Ffrainc.

Cyn ei ymuniad a'r fyddin gwasanaethai fel clerc gyda Mr L C. Evans, clerc trefol, Salford. Mae llawer yn adwaen Artie'r Banc, fel ei gelwid, yn y dref fel cymeriad hynaws a charuaidd, a boneddwr ym mhob-peth a wnai, a siwr ddigon fod yma deimlad cryr o blaid iddo gael ei adfer yn fuan o'i archollion blin.

Ymysg y rhai a fu o dan ei lywyddiaeth ceir ambell i filwr dewr o'r dref.

Yr Udgorn 15/05/1918


PERSONOL.

Llawen oedd genym weled Captain Artie Price Hughes, Llandudno (mab Mr W. O. Hughes. Metropolitan Bank gynt), yn ymweled a'n tref ac yn edrych mor dda ar ôl derbyn niweidiau mor dost rai misoedd yn ôl yn Ffrainc.

Canmolir ef yn fawr fel swyddog rhagorol gan fechgyn o'r dref fu dan ei lywyddiaeth.

Yr Udgorn 24/07/1918