CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.

Dymuna Mr a Mrs D Lloyd Jones, Heol Fawr, ddiolch yn gynes am y cydymdeimlad cyffredinol ddangoswyd รข hwy yn marw cynar eu mab hynaf - Mr John William Jones yn Marseilles, Ebrill 13eg, 1917.

Mae'r llythyrau yn rhy lluosog i'w hateb oll yn bersonol.

Yr Udgorn 30/05/1917


PRIODAS MR. D. LLOYD JONES, WATCHMAKER.

Ddydd Iau, Medi 19eg, yng Nghapel Seisnig y Methodistiaid Calfinaidd, Llandudno, priodwyd y masnachydd hysbys Mr. David Lloyd Jones, Watchmaker, High Street, a. Mrs Jemima Rees, Bryn, Lleyn Street.

Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch. William Phyllips, M.A., gweinidog yr eglwys. Gwasanaethwyd ar y priodfab gan ei frawd, Mr. William Picton Jones, Wenallt, St. Peter's Terrace, ac ar y briodferch gan ei chwaer, Mrs. Eva Evans, Annedd, Ala Road. 'Roedd yn bresenol hefyd yn y briodas Mrs. N. Thomas, Dinbych (nith y priodfab), Cawsent anrhegion werthfawr a nifer o bellebrau llongyfarchiadol.

Heulwen a hedd fo'n dygyfor ar eu Ilwybr i ddiwedd eu hoes.

Yr Udgorn 25/09/1918