MARW GWRAIG RINWEDDOL.
Y mae genym yr wythnos hon y gorchwyl trist o gofnodi marwolaeth y wraig rinweddol a'r foneddiges hoff Mrs Bessie Lloyd Jones, priod Mr David Lloyd Jones, Watchmaker, Heol Fawr, yr hyn a gymerodd le foreu Gvrener diweddaf, a hi yn 64 mlwydd oed. Cafodd gystudd tost am chwe' mis, ond ymdawelodd o dan bwysau ei chyni yn deilwng o un yn goddef gwir ddioddefaint heb rwgnach.Yr oedd yn meddu ar ddynoliaeth deimladwy, yn addfwyn ei hysbryd, yn dyner o galon, ac yn briod a mam llond yr enw yn ei chartref clyd. Ceid ynddi rinweddau uchel gwraig dda, ei hosgo a'i cherddediad yn awgrymu boneddigeiddrwydd, a'i hymddiddanion o nodwedd goeth a diwylliedig. Ni welid yn lliw ei gweithredoedd goreu ond daioni pur yn ymddisgleirio fel goleuni boreu wawr i bob cyfeiriad, a'i chalon yn llawn tosturi at y dinodded a'r unig. Yr oedd yn grefyddol wrth natur, a chanfyddid prydferthwch ei chyffes yn ei byw.
Er gwyleiddied ei natur a thynered ei hysbryd, ni arbedwyd hi o afaelion pethau blin yr anialwch, oherwydd gwelodd yn ei dydd gawodydd gofid yn ymdywallt yn drwm, ac yn cymeryd ymaith rai o'i hanwyliaid i fro distawrwydd. Yn ddiweddar collodd ei mab, Mr John William Jones, yr hwn oedd eilun ei chalon, wedi byr waeledd yn Ffrainc, a bu i'r amgylchiad effeithio yn fawr arni. Tystiolaeth ddiamwys y dref heddyw yw ei bod yn un o'r gwragedd mwyaf pur a dilychwin ei buchedd, ac yn un o'r rhai boneddigeiddiaf ei moes.
Heddyw (dydd Mawrth) cymerodd yr angladd le, yr hon oedd anghyhoedd, yn hen fynwent Denio, o dan y drefn newydd. Gwasanaethwyd gan y Parchn. John Puleston Jones, M. A., a Thomas Williams.
Wele'n canlyn drefn yr angladd Parchn. J. Puleston Jones a Thomas Williams, Swyddogion Eglwys Penmount, Dr. O. Wynne Griffith, Dr. R. Jones Evans, Mri Hugh Griffith, ac Owen Owen Teulu Mri David Lloyd Jones (priod), Annie Mary a Blodwen Lloyd Jones (merched) Mr a Mrs Ellis jones, Wrexham (brawd-ynghyfraith a chwaer); a Miss Jones, Wrexham Mr a Mrs William Williams, Salem Crescent, Masters Willie a Llewelyn Williams, efo Miss Memmie Davies, Prestatyn; Mri W. Davies, North Street, W. Picton Jones a W. Wynne Owen, Arosfa; Hywel Roberts, Gwnningar, Bodfean; David Jones, Watchmaker, Llangefni; John Hughes, Llwynogan, Llanfair P.G.; Hugh R. Jones, Bethesda; Mrs Jones, Bethesda; Mr Henry Lloyd (ieu.), Tai Cochion; Private Tom Williams a Mr Richard Williams, Ty'ncoed, Bodfean; Mri John Griffith, Bermo, David Jones ac Elias Lloyd Jones, Elphin House, Chwilog. Hefyd W. J. Williams, Evan Jones, ac R. O. Griffith (Chemist), Pwllheli.
Y cludwyr (bearers) oeddynt: Mri Hugh Griffith, Abererch Road; Hugh Williams (Brothen), Carnarvon Road; Thomas Ellis, Mount Villa, a W. T. Jones, Penlan Street.
Anfonwyd blodau-dorchau gan y rhai canlynol : Annie Mary a Blodwen; Mr a Mrs Ellis W. Jones, Wrexham; Mr a Mrs William Williams, Salem Crescent; Misses Edith a Vera Davies; Mr Anthony, The Lodge; Mrs Roberts, Gwnhingar; Private Tom Williams, Bodfean; Mrs Jones, Caerhydderch; Mr a Mrs Jones, 66, High Street; Mr a Mrs Ellis a'r Teulu, Oswestry; Mr a Mrs Hardman a'r Teulu, Wrexham; Mr a Mrs Williams, Church Street.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'r teulu yn nyfnder eu poen a'u hiraeth ar ôl un mor anwyl a thangnefeddus, a bydded iddynt gael nerth i ddal y brofedigaeth yn dawel.
Yr Udgorn 20/06/1917
CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.
Dyma Mr D. Lloyd Jones, Watchmaker, a'r teulu ddiolch yn garedig a chywir i'r cyfeillion lluosog ddangosodd, trwy lythyrau ac amryw ffyrdd eraill, eu cydymdeimlad â hwy yn eu profedigaeth.Mae'r llythyrau yn rhy luosog i'w hateb bob yn un, a dymunant i'r cyfryw dderbyn eu gwerthfawrogiad o honynt trwy y nodiad hwn.