PRIODAS.

Heddyw (dydd Mawrth), yn Nghapel Seion (MC.), Wrexham, unwyd mewn priodas Lifftenant Thomas J. Williams, mab Capt. Thomas Williams, Ty'ncoed. Bodfean a Miss Annie Mary Jones, merch hynaf Mr a'r ddiweddar Mrs D. Lloyd Jones, Watchmaker, High Street.

Gweinyddwyd y seremoni gan y Parchn. Robert Roberts, Colwyn Bay, a Thomas Jones, Rhostyllen. Gwasanaethwyd fel gweision gan Cadets Williams ac H. K. Owen, Aberporth, ac fel morwyn gan Miss Blodwen Jones (chwaer y briodferch). Rhoed y briodferch ymaith gan ei thad. Yr oedd hefyd yn bresenol yn y briodas Mrs Ellis W. Jones a Miss Maggie Jones, Aelybryn, Wrexham. Darparwyd gwledd y briodas yn Wynnstay Hotel, Wrexham, i'r par priodasol a'r gwahoddedigion.

Wedi'r wledd ymadawsant i dreulio eu mis mĂȘl i Birmingham yn nghanol dymuniadau goreu cyfeillion.

Dymunwn iddynt y gwir ddedwyddwch hwnw sydd mewn uniad hapus, a gwenau teg rhagluniaeth fu o'u tu i derfyn eu hoes.

Yr Udgorn 05/12/1917