WEDI EU CLWYFO.
Hefyd heddyw (dydd Mawrth) derbyniwyd hysbysrwydd gan Mrs. Jones, Caerhydderch, fod ei mab, Lance-Corporal Teddy R. Wilson, wedi ei glwyfo yn ei fraich yn Ffrainc, a'i fod mewn ysbyty yno.Llanc gwylaidd a boneddigaidd yw Teddy, ac allan o'i gynefin y mae heddyw drwy orfod, megis llu tebyg, yn dioddef eu penyd yn ddistaw am anghyfiawnder eraill.
Duw fo'n dirion wrth y cyfryw blanhigion tyner, a dymunwn iddynt adferiad buan.