PRIODAS.

Dydd Sadwrn, yng Nghapel Penlan, priodwyd Mr Rowland Eames Jones, mab Mr a Mrs Richard Jones, argraffydd, High Street, Pwllheli, a Miss Annie Thomas, Erylfryn, Pwllheli.

Gweithredwyd fel tystion gan Mr Christopher Wilson Jones a Miss Dora E. Thomas, brawd a chwaer y priodfab a'r briodferch.

Gweinyddwyd gan y Parch J. Rhyderch yn mhresenoldeb Mr Owen Rowlands, cofrestrydd.

Cafwyd gwledd briodasol yn ngwesty'r "Gwalia."

Yr Herald Gymraeg 29/06/1915