Llythyrau Oddiwrth ein Milwyr.
Derbyniodd Mr a Mrs F. H. Bowen, Heol Fawr, lythyr oddiwrth ei fab Private Eddie Bowen, o "Rhywle yn Mor y Werydd", a sicr genym y bydd ychydig ddyfyniadau o hono yn dderbyniol gan ei luaws cyfeillion.Yr oedd gan Private Eddie Bowen gylch mawr o gyfoedion mebyd mynwesol a hoff o hono oherwydd ei ysbryd caruaidd a'i bertrwydd ymadrodd, a byddent yn ddiau yn falch o ddeall ei fod o ran ei anianawd yr un er ymhell o dir ei wlad ac o gyfeillach gynes ei gymrodyr.
"Somewhere In the Atlantic."
November 14th, 1916.
Dear Parents.
I am taking the first opportunity of writing these few lines to you. I am not quite certain that we are calling at a port tomorrow, but I am making this letter now so as to ready if we do arrive there. When I heard the news of the torpedoing of the P. and O. Liner Arabic, my thoughts turned towards home.
You have perhaps worried a lot about me, but we are by today out of the danger zone. We have travelled over 2,409 knots, so you see that I am far far away doing my little bit for dear old England. The Bay of Biscay was very rough indeed, and the first Sunday only I was sea-sick. Thank goodness for that, and I am feeling in the pink. I only trust In God that my present state of health will remain the same.
It's very hot indeed in the region where we are now, "O na byddai'n haf o hyd," having had two summers in one winter is a luxury, dont you think ? We will be crossing the equator in about two days' time.
I hope the spirit of Kitchener still remains in the land-carry on a fight until every German is crushed—in to Victory—none stop to Berlin. We have another fortnight from the rest camp to India.
Remember to send me the Udgorn for all the weeks. Now I must conclude, as I am going to the Concert on board the old vessel. We are due to arrive at out new training quarters about Xmas.
I remain,
Your affectionate son,
E. H BOWEN.
Yr Udgorn 06/12/1916
LLYTHYR DYDDOROL O'R INDIA.
Profiad Milwr Ieuanc o Bwllheli.
Ysgriifenodd Private Eddie Bowen, o'r 1st Breknocks Battalion, mab i Mr a Mrs F. H. Bowen, grocer, High Street. Pwllheli, lythyr dyddorol iawn i'w rieni o Ganolbarth India yn cynwys hanes ei daith anturiaethus i'r lle. Dywed eu bod wedi eu cludo yno mewn llong fechan trwy y Bay of Biscay, yr hon oedd yn cael ei lluchio gan y tonnau cynddeiriog fel hen gryd. Buont am saith niwrnod heb ddiosig eu dillad a'r lifebelts yn barod am danynt. Dymunent y goreu, ond yr oeddynt yn barod ar gyfer y gwaethaf.Gan fod ganddynt ddau o ynau mawr 4.7 inch ar y bwrdd buont yn rhoddi croesaw cynhes i gychod tanforawl y Kaisar pe baent yn gwneyd eu hymddangosiad.
"Diolch i Dduw," meddai, "am fod genym y fath lynges ardderchog. Yr oedd y llynges yn gwarchod o'n cwmpas ar ein ffordd allan. Ar ôl morio rhai dyddiau bu i ni stopio mewn porthladd Ffrengig, lle y buom yn aros am ddiwrnod a hanner am lo. Ni chaniateid i ni fyned i lawr yn y lle hwn, ac yr oeddym yn fuan allan o olwg tir drachefn.
Ar ôl bod dros fis ar y mor cyrhaeddasom Durban, Affrica, ac yr oeddym wedi ein cyhoeddi fel ar goll yn Lloelgr ers wythnos. Cawsom fyned i lawr, ac aethom am daith trwy ran o'r dref am ddeng munyd. Ymddygid atom fel at foneddigion tra yr oeddym yn y lle hwn, a phan oeddym yn ymadaei yr oedd y porthladd yn llawn o bobl yn lluchio pob math o anrhegion i ni. Yn Durban caniateid i'r holl filwyr fyned yn ddidal i'r cinema, i'r theatres, ac ar y cerbydau trydan. Dyweder a fyner am Dde Affrig, tra y byddwn ni byw bydd i ni gofio'r Nadolig hwn a'r croesaw a gawsom yn cynwys gwerth 10s o anrheg Nadolig i bob un ohonom.
Wedi rhai dyddiau o forio cyrhaeddasom i Dar-es-Salaam, yn German East Africa, ond sydd yn awr yn ein meddiant ni. Cyfarfyddasom a'r Llywodraethwr Prydeinig a'i ddau ysgrifenydd cyfrinachol a chafwyd croesaw cynhes ganddo. Cawsom olygfa ddoniol ar y brodorion yn cario glo i'r llong fawr gyda basgedi bychain. Nid yw yr holl fyd yn agos i wareiddiad eto. Cawsom plum pudding ddwy waith ar y llong, ond dim byd mor ragorol a'r pwdin a arferem ei gael yn yr hen gartref sydd mor bell yn awr.
Cyrhaeddasom Bombay ar Rhagfyr 21, ac archwiliwyd ni yn fanwl gan feddygon cyn myned o'r llong, a chawsom arian tramor yn lle arian Lloegr. Lle difrifol ac aflan iawn yw Bombay - y mae yn waeth na'r slyms gwaethaf yn Lloegr. Teithiasom yn y tren am ddau ddiwrnod a chyrhaeddasom orsaf o'r enw Uhaw. Yr oedd Seindorf Frycheiniog yn ein cyfarfod yn yr orsaf. Dyma'r seindorf oreu yn yr India.
Wedi cerdded am tua milldir aethom i le wedi ei arwisgo yn hardd a chiniaw blasus yn ein haros. Dyma'r ciniaiw cyntaf gefais er pan yn y fyddin. Cawsom welyau cysurus i gysgu arnynt yma, ac nid gwelyau caled fel y rhai a gawsom yn Lloegr ac yr ydym yn cael ein treatio lawer gwell nag yn Lloegr. Dyna farn yr hogiau i gyd. Mae pob peth yn tip-top yma. Mae genym ystafell wely ac yn y boreu daw un o'r brodorion du heibio i'n shafio yn ein gwely. a thalent y swm anrhydeddus o 6c yr wythnos am eu llafur."
Aiff rhagddo i ddweyd nad ydynt yn gweithio ond tair awr y dydd. ac fod pethau yn llawer rhatach yno. Mae yn y wlad gyflawnder o wenith. Bu iddynt basio cannoedd o dunelli yn y gorsafoedd. Mae yno gotwm a siwgwr mewn cyflawnder. Ceir pedwar wy am 2 1/2c yno. Nid yw'r milwr calonog uchod ond 19 mlwydd oed. ac yr oedd yn ysu ers tro am gael ymuno a'r fyddin.