YNADLYS PWLLHELI.
ERLYN CIGYDD ACHOS DYDDOROL.
Yn Ynadlys Pwllheli, ddydd Mercher, gerbron Cyrnol Lloyd Evans (Cadeirydd), Mri. Maurice Jones, W, Anthony, J. G. Jones, Claude Lloyd Edwards, G. Hughes Roberts, Rupert Ellis, W. Thomas, C. H. Lloyd, Dr. R. Jones Evans, Dr. Gwenogfryn Evans, Dr. S. W. Griffiths, J. Hughes Parry, a W. W. Griffiths.Cyhuddai yr Arolygyad Vaughan Davies, Caernarfon, Richard Roberts, cigydd, Market Square, Pwllheli, o werthu pwys o sausages yn cynwys 33.6 y pwys o boric acid, ac felly yn beryglus i iechyd os y defnyddid yn gyson. Ymddangosodd Mr. William George ar ran yr erlynydd a Mr. Cradoc Davies ar ran y diffynydd. Dywedodd Mr. George, wrth agor yr achos, ei bod yn debyg y cyfeiriai y diffynydd at achos fu gerbron ynadon Caernarfon y dydd Llun blaenorol, ac er fod y swm o bowdr yn fwy yno nag yn yr achos hwn, taflwyd yr achos allan. Ond yr oedd ganddo fainc wahanol i osod yr achos ger eu bron. Yr oedd y dadansoddyad o'r farn fod cymeryd boric acid yn barhaus yn beryglus i iechyd. Yr oedd yn arferiad i'w ddefnyddio er mwyn cadw y sausages yn bur. Ond ni oddefid mwy na 17 grains y pwys.
Tystiodd Mr. Vaughan Davies ei fod wedi prynu pwys o sausages gan y diffynydd. Pan wnaeth ef ganlyniad y dadansoddiad yn hysbys dywedodd ei fod ef a Mrs. Roberts, ei briod, wedi rhoddi swm o boric acid ar y cig heb wybod y naill i'r llall. Yn ateb i Dr. Jones Evans dywedodd nad oedd yn cofio cymeryd sampl o sausages Mr. Roberts o'r blaen. Mewn atebiad i Mr. Cradoc Davies dywedodd ei fod yn arfer a cael boric acid mewn sausages yr adeg hon ar y flwyddyn. Cyfaddefodd fod siop y diffynydd yn lan a threfnus.
Yr oedd ynadon Caernarfon wedi taflu achos cyffelyb allan er fod yno fwy o raddau o'r powdr yn y sausages. Tystiodd Dr. Parry Edwards, Swyddog Meddygol y Sir, nad oedd y swm a gaed yn y sausages yn angenrheidiol er eu diogelu. Nid oedd yn credu mewn rhoddi unrhyw fath o gyffeiriau mewn cigoedd, ond arferid boric acid yn gyffredinol mewn sausages ac yr oedd y prif feddygon o'r farn mai dyna y peth goreu er diogelu cigoedd rhag llygru. Yr oedd y safon arferol yn 17.5 y pwys. Yr oedd unrhyw swm dros ben hyny yn debyg o fod yn beryglus i'r cyhoedd. Yr oedd dirprwyaeth arbenig o feddygon wedi gosod cyfartaledd y swm a ddefnyddid yn 33.3 gram y pwys. Ac anogent Bwrdd Llywodraeth Leol i osod safon o 35 grains.
Yn ateb i Mr. William George, dywedodd fod syniadau meddygon wedi newid yn fawr ers pan wnaed yr argymhellion uchod. Dywedodd Mr. Cradoc Davies ei fod yn anhegwch mawr a masnachwyr am na buasai rhyw safon wedi ei roddi. Nid oedd dim safon o gwbl yn awr wedi ei osod gan Fwrdd Llywodraeth Leol. Nid oedd ond mater o farn. Tystiodd y diffynydd ei fod yn cadw busnes yn y dref ers llawer o flynyddau. Ni chwynodd neb o'r blaen yn ei erbyn. Buasai yn falch pe rhoddid rhyw safon.
Mewn atebiad i Mr. William George, dywedodd ei fod yn rhoddi rhyw 3oz yr ugain pwys, ac yr oedd y teulu i gyd wedi brecwesta ar sausages hyd yn oed y plentyn lleiaf, ac ni chwynodd neb mewn canlyniad. Nid oedd ef yn gwybod fod Mrs. Roberts, ei briod, wedi rhoddi y powdr yn y cig neu ni buasai ef yn rhoddi cymaint yn y sausages drachefn.
Ar ôl ymneillduo am beth amser taflwyd yr achos allan ar daliad 17s 6c o gostau.