PRIODAS.

Ddydd Gwener, yng Nghapel Penmount, unwyd mewn priodas Private Owen Griffiths, Dolgellau, a Miss Ellin Roberts, merch Mrs Ellen Roberts, Gors.

Gweinyddwyd y ddefod arferol gan y Parch. T. Williams, Elms, yn mhresenoldeb y cofrestrydd, Mr. W. M. Jones, Nefyn. Gwasanaethwyd fel gwas gan Private John Roberts (brawd y briodferch), ac fel morwyn gan Miss Blodwen Griffiths (chwaer y priodfab). Yr oedd hefyd yn bresenol Private John Griffiths, Dolgellau, Mrs. Griffiths, Ty Cerrig, Sarn, a Mrs. Evan Roberts, Penmount Place.

Dymunwn i'r par ieuanc bob dedwyddwch yn eu byd newydd.

Yr Udgorn 04/12/1918