MARWOLAETH.

Foreu Gwener, yn dra anisgwyliadwy, bu farw Mr. Richard Henry Nash, priod Mrs, Jane Nash, Cheltenham Temperance, Sand Street, ac efe yn 70 mlwydd oed.

Yr oedd yr ymadawedig beunydd mewn iechyd da, ac yr oedd o amgylch ei ddyledswyddau arferol y dydd y cymerwyd ef yn wael. Cymeriad addfwyn a thawel oedd, ac yn llawn o natur dda. Ni ymyrai yn myw ac amgylchiadau teuluaidd neb, a thrwy hyny yr oedd ei barch yn ddwfn ac yn eang yng nghyfrif ei gymdogion am dano.

Chwith fydd gan amryw o Eifionydd a'r cylchoedd cyfagos, fu'n aros yn ei dy, fydd colli y gwestywr caredig a pharod ei gymwynas o'u p!ith.

Cymerodd y gladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, ddydd Llun yn mynwent Capel Helyg Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Rhydderch, Penlan, ac wrth y bedd gan y Parch. T. Williams, Capel Helyg.

Gedy ar ei ôl briod a phlant mewn galar dwys, â'r rhai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf.

Yr Udgorn 25/09/1918


MARWOLAETH SYDYN.

Foreu Gwener, yn dra sydyn. bu farw Mr. Richard Henry Nash. Cheltenham Temperance, yn ei 70ain mlwydd oed.

Yr oedd yn ddyn iach a chryf, ac yr oedd gyda'i oruchwylion ychydig oriau cyn ei farworaeth. Yr oedd yn gymeriad diddan a hoffus, ac yn aelod ffyddlon yng Nghapel Penlan.

Cymerodd ei angladd le ym Mynwent Capel Helyg dyss Llun, y Parchn. J. Rhydderch a Thomas Williams, Capel Helyg yn gwasanaethu.

Cydymdeimlir yn fawr a'i briod a'i blant.

Yr Herald Gymraeg 01/10/1918