MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth a ch!addedigaeth Mrs Catherine Owen, Llys Heli, Penlan Street. Bu farw ar ôl gwaeledd maith ddydd Mawrth, Mai 7fed, yn 70 mlwydd oed, a chladdwyd y Gwener dilynol yn mynwent Garn Dolbenmaen. Angladd anghyhoedd.

Gwasanaethwyd yn y tŷ a'r fynwent gan y Parchn. H. H. Williams, Tabernacl, a Tegid Davies, Ficer, Penant.

Yr oedd yr ymadawedig yn aelod selog gyda'r achos yn y Tabernacl am flynyddau lawer, ac yr oedd hi a'i merch (Mrs M. E. Jones) bob amser yn barod iawn i estyn pob cynorthwy gyda'r achos, a bu Llys Heli yn llety pregethwyr am flynyddau. Chwith iawn fydd ei cholli o'n mysg.

Dymuna Mrs Jones gydnabod yn ddiolchgar y llythyrau cydymdeimiad a dderbyniodd, a'r sirioldeb a dderbyniodd oddiar law pawb o'i chyfeillion.

Yr oedd trefniadau'r angladd yng ngofal Mr M. M. Williams, Emporium.

Yr Udgorn 15/05/1918