MARWOLAETH.
Nos Iau diweddaf, wedi ychydig gystudd, bu farw Mr John Griffith, Broomhall Arms, ac efe yn 78 mlwydd oed. Yr oedd Mr Griffith yn ŵr hysbys iawn yn ein tref, a chylch ei gydnabyddiaeth yn dra eang hyd yn oed yn Lleyn ac Eifion.Amaethon diwyd oedd, a meddai ar nodweddion gwir Gymroaidd, ac o ffordd hynod wreiddiol. Magodd deulu lluosog, y rhai sydd yn ddefnyddiol iawn i gymdeithas heddyw.
Mab iddo ef ydyw Mr E. Jones Griffiths, Prif Athraw Ysgol Troedyrallt. Cymer y gladdedigaeth le heddyw (ddydd Mawrth) yn mynwent Llaniestyn.
Cydymdeimlwn a'r weddw ac a'r plant oll yn eu profedigaeth.
Yr Udgorn 07/08/1918
ANGLADD.
Dydd Mawrth cymerodd angladd Mr John Griffiths, Penlan Bach, le yn Llaniestyn.Gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas Williams, Elms, a J. James (Ficer).
Y prif alarwyr oeddynt Mri E. Jones Griffiths (mab), R. R.. Jones (mab yng nghyfraith), Richard Griffith, Ivan Cecil Williams, lestyn, John (wyrion) T. H. Griffiths, Nebo; J. Griffiths, Mynytho; John Dobson, D. Jones, M. G. Jones, Artro; W. Jones Williams, Caernarfon; John Owen. William Jones, Abererch Road; Harry Parry, Mostyn; G. Jones, Bodfel Hall; Griffith Hughes, Dinas; Hugh Griffith, Abererch Road; a Dr. R. Jones Evans, Plasyward.