YR YNADLYS.

Cynhaliwyd dydd Mercher. Gerbron Mr. C. H. Lloyd Edwards (yn y gadair), Cyrnol Gough, Dr. S. W. Griffith, Dr. Gwenogfryn Evans, Mri. G. Hughes Roberts, W. Thomas, W. W. Griffith, J. Hughes Parry.

DIRWYO TAFARNWRAIG.

Cyhuddid Hugh Hughes, Alpha Temperance, a John Roberts, Round Tai, Penrhydlyniog, gan yr Arolygydd Owen o fod yn feddw tua 9 o'r gloch nos Sadwrn, Chwefror 24ain, ger Penlan Bach Inn, Hefyd cyhuddid Mrs. Ellen Griffith, trwyddedydd y Penlan Bach Inn, o ganiatau meddwdod mewn tŷ trwyddedol.

Ymddangosai Mr. William George ar ran yr heddlu, a Mr. E. R. Davies dros y trwyddedydd a'r dynion.

Dywedai Mr. George fod yn resyn fod dynion fel hyn yn cael eu goddef i feddwi yn yr adeg difrifol hwn yn hanes y wlad ac yr oedd yn fwy gresynus fyth fod y tafarnwyr yn rhoddi diod iddynt yn unig er cael eu harian a gwneud elw o honynt.

Tystiai yr Heddwas Thomas ei fod yn Penlan Street y noson grybwylledig, a chlywodd lais John Roberts yn siarad yn uchel yn Penlan Bach tuag ugain munyd i naw. Ategai yr Heddwas Jones ei fod wedi gweled y ddau ddiffynydd yn dod allan o Penlan Bach tua 9 o'r gloch, ac yr oeddynt yn feddw iawn. Boreu Llun gwelodd John Roberts, a chyhuddodd ef o fod yn feddw nos Sadwrn, a dywedodd yntau mai nos Wener y bu ef yn Penlan Bach, ond yr oedd yn cofio gweled yr heddwas yn rhoddi ei lamp arno.

Cyfaddefai Hugh Hughes ei fod ef yn Penlan Bach y noson dan sylw. Gwadai ei fod yn feddw, ond dywedai fod John Roberts yn feddw, a'i fod wedi myned ag ef gartref. Nid oedd yn cofio i'r heddwas roddi ei lamp arno. Aeth ef a'r Arolygydd Owen i Penlan Bach, a gwelsant ddwy ferch Mrs. Griffith yn y tŷ.

Yn ateb i Mr. E. R. Davies dywedai nad oedd ef yn ystyried ei bod yn ddyledswydd arno fyned i siarad a Mrs. Griffith y noson y gwelodd y dynion yn dod o'r tŷ, ac nid aeth i siarad â'r dynion hyd ddydd Llun, am eu bod yn rhy feddw i gael dim synwyr ganddynt y noson dan sylw.

Tystiai Mr. Thomas Hughes, tad y diffynydd Hugh Hughes, fod ei fab wedi dod adref tua 9-12 o'r gloch y nos Sadwrn dan sylw. Yr oedd yn feddw iawn, a bu raid ei gario i'w wely.

Yn ateb i Mr. E. R. Davies dywedai na welodd ef yr un dyn meddw erioed yn ddistaw os na byddai yn rhy feddw i allu gwneud twrw.

Tystiai yr Arolygydd Owen iddo weled John Roberts ar ôl naw y nos Sadwrn crybwylledig yn bur feddw. Aeth i siarad a'r diffynyddion bore Llun. Dywedodd John Roberts na bu yn Penlan Bach nos Sadwrn, ond bu yno nos Wener yn cael tipyn o ddiod am fod ei fab wedi priodi. Ar ôl bod yn siarad â Miss Griffith a Mrs. Jones, merched y trwyddedydd, aeth i siarad â Hugh Hughes a gwadai ef ei fod yn feddw.

Yn ateb i Mr E. R. Davies dywedai iddo fyned i siarad â John Roberts am nad oedd yn dymuno ei erlyn heb ddwevd wrtho yn flaenorol. Nid ei amcan yw myned atynt ydoedd ceisio cael tystiolaeth yn erbyn y tŷ.

Dywedai Mr. E. R Davies nad oedd am alw tystion, nac am roddi y diffynydd Hugh Hughes yn y box. Yr oedd ganddo ddau dyst fu yn nghwmni John Roberts rhwng 9 a 10 y noson o dan sylw, ac yr oeddynt o'r farn ei fod yn sobr. Yr oedd yn gallu siarad am y rhyfel a phrinder ymborth.

Mr. W. George A phrinder diod (chwerthin).

Aeth Mr. Davies rhagddo i ddweyd fod John Roberts wedi gwneud y sylw nad cedd trigolion y wlad hon wedi sylweddoli difrifoldeb cyflwr y wlad, ac nis gellid disgwyl i ddyn meddw wneud y fath sylw. Daliai ef nad oedd yr heddlu wedi ymddwyn yn anrhydeddus yn y modd yr oeddynt wedi casglu tystiolaethau yn erbyn y dafarn. Dywedai fod y tŷ yn un parchus iawn.

Yr oedd Mrs. Griffith yn 80 mlwydd oed, ac yn dal y drwydded er's 43 mlynedd, ac ni bu yr un cyhuddiad yn ei herbyn.

Tystiai Mrs Ellen Ellis iddi weled John Roberts ar ôl naw o'r gloch y nos Sadwrn dan sylw. Nid oedd yn feddw iawn, ac yr oedd yn siarad yn rhesymol. Ategid, gan Mrs. Maggie Jones. Yr oedd yn siarad yn rhesymol, ond nid oedd yn feddw iawn.

Tystiai Mrs. Mary Jones, merch Mrs. Griffith, y trwyddedydd, iddi weled Hugh Hughes yn y cyntedd y noson dan sylw, a throdd ef allan. Credai fod John Roberts i mewn yn y tŷ. Yr oedd ef yn arfer a siarad yn uchel, ond nid oedd dim yn ei olwg i ddangos ei fod yn feddw. Yr oedd ei mham yn eistedd mewn rhan arall o'r ty.

Yn ateb i Mr. Wm George dywedai mai athrawes ydoedd hi. Ni roddodd ddiod i neb y noson dan sylw. Yr oedd ei chwaer yn gofalu am y tŷ. Bu John Roberts yn y tŷ am haner awr, ond nid oedd yn cofio iddi hi roddi diod iddo. Yr oedd yr heddlu wedi eu rhybuddio i beidio rhoddi diod i Hugh Hughes.

Dirwywyd Ellen Griffith i 1p. a chostau y cyfreithiwr erlyniol, a Hugh Hughes a John Roberts i 10s. yr un.

Yr Udgorn 21/03/1917