LLYS APEL PWLLHELI.

Cynhaliwyd nos Fercher. Yr oedd yn bresenol Mri G. Cornelius Roberts (Maer) yn y Gadair. Dr. R. Jones Evans, Mri Wm. Parry, Richard Roberts, John Ellis (Clerc), George F. Yale (Cynrychiolydd Milwrol).

CLOCSIAU YN DOD I ARFERIAD.

Apeliodd Hugh MeKevitt, Penlan Street, gwneuthurwr clocsiau, dyn sengl, 24 mlwydd oed, am esgusodiad. Ymddangosodd Mr Hugh Pritchard ar ei ran, a dywedodd ei fod yn gwneuthur clocsiau i gwsmeriaid o Bontnewydd i Aberdaron ac yn trwsio miloedd ohonynt mewn blwyddyn. Yr oedd y dyn yn gweithio yn foreu a hwyr er ceisio dod i fyny a'r galw.

Mr. William Parry : A oes llawer o wisgo ar glocsiau yn awr?

Mr. Pritchard : Oes. Mae'r ffaith fod y lledr mor ddrud ac esgidiau ready-made mor brin yn peri i bobl y wlad droi i wisgo clocsiau eto a na phryderai ef brophwydo y byddai i'r busnes gynyddu yn fawr yn y dyfodol agos.

Caniatawvd esgusodiad agored hyd lonawr 1af.

Yr Herald Gymraeg 17/10/1916