MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Y mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth Mrs Catherine Lloyd, priod y diweddar Mr Owen Lloyd, Mitre Square, yr hyn a gymerodd le ddydd Sadwrn diweddaf, a hi yn 63 mlwydd oed. Dioddefodd ei chystudd yn dawel ac amyneddgar. Yr oedd yr ymadawedig yn bur adnabyddus yn y dref, a hoffid hi yn fawr gan gylch eang o gyfeillion a chydnabod ar gyfrif ei sirioldeb a'i chymwynasgwch.Y mae dau o'i meibion yn gwasanaethu yn y fyddin. Bu Richard Lloyd, yr ieuengaf, yn nghanol yr ymladdfeydd onadwy yn y Dardanelles, a daeth oddiyno yn groen iach, a symudwyd ef ar ôl hyny i'r Aifft, lle yr erys hyd yn hyn. Y mae Owen Lloyd, yr hynaf, wedi ymuno a'r Welsh Guards ers wythnosau, ac yr aros yn ymyl Llundain.
Anghyhoedd oedd y gladdedigaeth, yr hon a gymerodd le heddyw (ddydd Mawrth) yn hen fynwent Denio. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac yn y fynwent gan y Parchn J. Edwards, B.A., Ficer, a Pierce Owen, B.A., Ciwrad.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'i phlant yn eu hiraeth o golli mam mor dirion, a'r perthynasau oll yn eu galar dwfn.