DEDDF Y SIOPAU.
Cyhuddai yr Arolygydd Charles L. Roberts, John Elias, eillydd, Gaol Street, Pwllheli, o fasnachu prydnawn dydd lau, yr hwn oedd yn haner dydd gwyl wythnosol yn y dref.Erlynodd Mr. Cradoc Davies ar ran yr arolygydd, a thystiodd yr Arolygydd Owen iddo weled y diffynydd yn eillio milwr ar ol dau o'r gloch. y prydnawn.
Dywedodd y diffynydd wrtho fod ganddo nifer o blant i'w cadw goreu y gallai.
Eglurodd Mr. Cradoc Davies fod y diffynydd wedi cael ei benodi i eillio y milwyr, ac yr oedd yn tybio ei fod i gael ei esgusodi oherwydd hyny. Yr oedd llawer yn tybio nad oedd Deddf y Masnachdai mewn grym am fod y milwyr yn y dref.
Dirwywyd ef i 5/6.
Yr Herald Gymraeg 20/07/1915
YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mercher, Mr. J. G. Jones yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol Mr. Maurice Jones a G. Hughes Roberts.YMOSODIAD.
Cyhuddai Mr. Owen C. Jones, Mitre Place, Pwllheli. John Elias, gynt o Gaol Street, Pwllheli, o ymosodiad. Ymddanghosodd Mr. W. Cradoc Davies dros y diffynydd.Tystiodd Jones ei fod wedi cyfarfod y diffynydd yn nrws ei siop yn Gaol Street tua. 10 y boreu, Medi 25ain. Gofynnodd iddo sut yr oedd gan nas gwelodd ef ers pum mlynedd. Trodd yntau yn sydyn a dywedodd wrtho am fyned i uffern (chwerthin). Gofynnodd iddo drachefn a throdd ato yn sydyn a tharawodd ef yn ei enau a morthwyl nes yr oedd yn gwaedu.
Mewn atebiad i Mr. Davies dywedodd y bu'n siarad am tua deng munyd a'r diffynydd. Pan ddywedodd wrtho am fynd i uffern atebodd yntau am iddo aros nes y byddai farw (chwerthin). Gwadai fod dim drwgdeimlad yn bod rhyngddynt. Yr oeddynt yn siarad yn gyfeillgar, ac ni buasai gan y diffynydd siawns o gwbl pe y buasent yn myned i ymladd (chwerthin). Ar ôl mynd adref y penderfynodd dynnu'r wys allan.
Tystiodd yr Arolygydd ei fod wedi gweled yr achwynydd drannoeth. Yr oedd ei wefl uchaf yn chwydd, ac yr oedd yn ddu a gwaed yn dod ohoni.
Tystiodd y diffynydd ei fod yn byw yn Lerpwl ers pedair blynedd. Yr oedd teulu'r achwynydd yn teimlo am na bai ef wedi gosod y masnachdy iddynt hwy. Bu i'r achwynydd ei alw wrth y llysenw a roddid arno, ac nid oedd ef yn hoffi hynny o gwbl, a rhoddodd ysgytwad iddo ymaith, ac yn ddamweiniol tarodd y morthwyl ef yn ei enau. Ni buasai ganddo ef siawns o gwbl mewn ymladdfa a chyn-filwr fel yr achwynydd, yr hwn oedd wedi ei ddysgu i ymladd (chwerthin).
Ymadawsant ar y telerau goreu.
Tystiodd Mr S. G. Bevan fod y ddau yn ymddangos fel pe ar y telerau goreu ac yn chwerthin yn braf. Dadleuai Mr. Davies nad oedd yr achos yn werth i fyned ag amser y llys.
Dirwywyd y diffynydd i 10s.