CLADDU HEN DREFWR.

Gyda gofid y cofnodwn farwolaeth sydyn ac anisgwyliadwy Mr. John Murray, Gaol Street, yr hyn a gymerodd le nos Fawrth, Rhagfyr 22ain, ac efe yn 77 mlwydd oed.

Bu yn gweithio am flwyddi hirfaith yn ddiwyd a chyson yn Ngharreg yr Imbil, a pherchid ef yn fawr gan ei wyr ar gyfrif y nodweddlion llednais a berthynai i'w ddynoliaeth.

Yr oedd yn aelod gwasanaethgar a ffyddlawm yn Eglwys St. Pedr, ac yn ŵr bucheddol ei rodiad.

Dydd Sadwrn claddwyd (angladd anghyhoedd) yr hyn oedd farwol o hono yn y Gladdfa Newydd. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Edwards, B.A., ficer, a T. Woodings, B.A., ciwrad.

Gedy ar ei ôl weddw, pedwar mab ac un ferch, a'r rhai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf.

Herald Gymraeg 05/01/1915