MARWOLAETH.

Drwg genym gofnodi marwolaeth sydyn Annie Murray, merch Mr. Nathan Murray, Gaol Street, yr hyn gymerodd le foreu Sul diweddaf, wedi ond ychydig ddyddiau o waeledd, yn yr oedran cynarol o 14eg mlwydd oed.

Yr oedd yn yr Ysgol Ganolraddol boreu Mawrth, a chymerwyd hi yn wael oddeutu canol dydd. Cleddir yn mynwent newydd Denio ddydd Iau (angladd preitat).

Cydymdeimlir a'i thad a'i brawd a'r teulu oll yn eu profedigaeth lem ac annisgwyliadwy. Nodded y nef fyddo drostynt.
  

Yr Udgorn 26/03/1913