YN WAEL.

Drwg genym ddeall fod Private Sam Griffiths, mab hynaf Mr a Mrs Griffith Griffiths, Gaol Street, yn wael mewn ysbytty yn Sheffield.

Ymunodd Private Griffiths yn fuan ar doriad allan y rhyfel, ac aeth drosodd i Ffrainc, ac yno aeth yn wael, a throsglwyddwyd ef drosodd i Loegr.

Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd ei fam lythyr oddiwrth swyddogion yr ysbytty yn erfyn iddi ddod yno i'w weld. Aeth yr holl ffordd yno gan y credid ei fod yn hynod wael, ond deallwn erbyn hyn ei fod ychydig yn well.

Eiddunwn iddo adferiad buan.

Yr Udgorn 10/10/1917