LLWYDDIANT MILWR.

Hyfrydwch o'r mwyaf genym longyfarch Private John Griffiths, mab Mr a Mrs Giiffith Griffiths, 4, Gaol Street, ar ei lwydd yn pasio yn Llundain arholiad pwysig ynglyn a'r hawlfraint i fod yn yriedydd arbenig car modur (Special Motor Car Driver).

Enillodd y test hwn ag anrhydedd, ac o galon dymunwn iddo bob amddiffyn i gyflawni y swydd werthfawr hon.

Yr Udgorn 16/05/1917


ENILL Y FEDAL FILWROL.

Llongyfarchwn Private Johnny Griffith, mab Mr. a Mrs. Griffith Griffith, Gaol Street, ar ei waith yn enill y Fedal Filwrol am wrhydri o'i eiddo ar faes y gwaed yn Ffrainc.

Enillodd yr anrhydedd am ei hunanaberth yn achub milwyr clwyfedig o dan gawodydd o shells a thân dychrynllyd y gelyn.

Yr oedd yr anturiaeth yn un beryglus ryfeddol ar ei ran, ac edmygwn yn fawr ei wroldeb.

Yr Udgorn 27/11/1918