Y CLWYFEDIGION.
Yr wythnos ddiweddaf caed hysbysrwydd fod Private David Evans Jones, Carnarvon House, wedi cael ei glwyfo yn Mesopotamia, a'i fod mewn ysbytty yno.Dyma y drydedd waith i Private Jones gael ei glwyfo yn ystod y rhyfel. Fe wyr y cyfaill rhadlon drwy brofiad lled chwerw erbyn hyn beth yw gwir erchyllderau maes y gwaed. Gwelodd yr ymegnion arswydus yn ymwau o'i gwmpas pan ei clwyfwyd gyntaf yn Ffrainc, ac aeth trwy gawodydd tân ffyrnicach fyth mewn llawer i ysgarmes anobeithiol yn Nhir yr Addewid.
Y mae dymuiadau goreu y dref ag ef yn ei fynych anffodion, a bydded iddo wellhad buan.