MARW'N IEUANC.

Trist yw cofnodi marwolaeth geneth ieuanc arall yn mlodau ei dyddiau, sef Lizzie Jones, merch Mrs. Jones, Gwynfa, Ala Road, yr hyn gymerodd le ddydd Sadwrn diweddaf, a hi ond 23ain mlwydd oed.

Hebryngwyd ei gweddillion i orffwys ym mynwent Denio heddyw (ddydd Mawrth). Gwasanaethvvyd gan y Parch. John Hughes, B A., B.D., gweinidog Salem.

Blaenorid yr orymdaith tua'r gladdfa gan blant Gobeithlu Salem, y rhai hefyd a roesant flodeuglwm hardd ar ei bedd.

Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Udgorn 28/05/1913