MARWOLAETH.
Foreu Mercher bu farw, wedi byr waeledd, Mrs. Ann Davies, 9, Ala Road, a hi yn 71 mlwydd oed.Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus i luaws yn y dref fel dynes dda a chymwynasgar. Cymerodd y gladdedigaeh le (anghyhoedd) yn mynwent Denio ddydd Sadwrn. Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, The Elms.
Gedy o'i hôl fab a merch i alaru eu colled.