MARW'N IEUANC.

Dydd Sadwrn bu angladd Mr. John Ednyfed Roberts, mab Mr a Mrs Roberts Jones Roberts, Ednyfed, Ala Road, ym mynwent Denio, y Parch John Hughes, B.D., yn gwasanaethu.

Nid oedd yr ymadawedig ond ugain mlwydd oed, ac yr oedd yn brentis o gynllunydd gyda Mr. J. M. Roberts, High St.

Yr oedd yn fachgen poblogaidd a rhinweddol iawn a chydymdeimlir a'i rieni yn eu galar dwys.

Yr Herald Gymraeg 17/08/1915