MEDDWDOD.

Gerbron Cyrnol Lloyd Evans ac ynadon ereill.

CYHUDDIAD O YMOSODIAD.

Owen Miles. Ala Road, a gyhuddwyd o fod wedi ymosod ar ei frawd-yng-nghyfraith Robert Williams, Sand Street. Honiad Williams oedd ei fod wedi ffraeo hefo'i wraig ddydd Sadwrn, yn herwydd ei bod yn meddwi ac yn gwastraffu ei gyflog ef. Yr oedd hi wedi lluchio pethau ato ac wedi malu pethau yn y tŷ.

Pan oedd efe yn ei wely tua dau o'r gloch y bore, dyma Miles yno, yn ymosod arno gan ei fygu bron yn y gwely.

Ystori Miles oedd i'w chwaer ef ddyfod ato nos Sadwrn. yn hwyr y nos, a'i gwaed yn rhedeg, a dywedodd fod ei gŵr wedi ymosod arni.

Aeth y diffynydd at Williams i ymresymu ag ef ac yn y fan dyma Miles yn cael ei daraw ganddo. Yna awd i ymladd. Dywedodd Miles lawer o bethau eraill pa rai a wedid gan Williams.

Rhwymwyd y partion i gadw'r heddwch.

Genedl Gymreig 14/04/1914


FFRAE RHWNG TEULU.

Cyhuddai Robert Williams, Sand Street, Pwllheli, ei frawd yng nghyfraith, Owen Miles, Ala Road, yn ynadlys Pwllheli ddydd Mercher, o ymosod arno.

Dywedai yr achwynydd fod y diffynydd wedi dod i'w tŷ tua haner nos Sadwrn, a'i guro yn ei wyneb tra yr oedd yn ei wely. Yr oedd ffrae wedi bod rhyngo ef a'i wraig am ei bod yn ymroi i ddiod. Curodd ef amryw droion yn ei wyneb fel nad oedd yn gweled yr un golwg. Yr oedd ei wyneb yn ddu yn y llys.

Ymddangosiai Mr. J. R. Anthony, ar ran y diffynydd, Dywedai y diffynydd i fachgen bach yr achwynydd alw i'w ymofyn tua haner nos am fod ei dad a'i fam yn ffraeo. Y nos Sadwrn dilynol tuag un o'r gloch y bore daeth ei chwaer yno. Yr oedd yn dyferyd a waed a'i hwyneb wedi ei rwygo. Aeth i dŷ yr achwynydd. Yr oedd yn ei ystafell wely a chan gynted ag yr aeth yno tarawodd yr achwynydd ef yn ei wyneb. Yna amddiffynodd yntau ei hun. Yr achwynydd a ddysgodd ei chwaer ef i yfed diod.

Dywedai y Cadeirydd eu bod yn rhwymo y ddau drosodd i gadw yr heddwch am chwe mis; y diffynydd i dalu 7s o gostau.

Herald Gymraeg 14/04/1914


ACHUB BYWYD BACHGEN.

Brydnawn Mawrth darfu i Mr Owen Miles, Ala Road, ddangos gwroldeb anarferol trwy achub bywyd bachgen, o 10 i 12 mlwydd oed, i Mrs Robert Roberts, Llawr Gors, rhag boddi.

Syrthiodd y bachgen i'r porthladd, ac yr oedd y dŵr yn y man y cwympodd iddo yn ddwfn iawn. Gyda phresenoldeb meddwl a graddau arbenig o hunanfeddiant, neidiodd Mr Miles yn ei ddillad i'r dŵr, a daeth ag ef yn ddiogel i ochr y porthladd. Rhoddodd Mr John Morgan, Porter, help i'w gael i'r lan, a daeth y bachgen i'w lawn ymwybyddiaeth yn fuan.

Haedda act mor orchestol a hon sylw y Gymdeithas Ddyngarol.

Yr Udgorn Herald Gymraeg 15/08/1917