MARW CAPT. JOHN HUGHES, ALA ROAD.
Gyda gofid yr hysbyswn am farwolaeth Capt. John Hughes, yr Hafan, Ala Road, yr hyn a gymerodd le foreu Sul diweddaf. Bu yn gystuddiol am amser hir, ond dioddefodd y cwbl yn dawel a theilwng o wir Gristion.Yr oedd Capt. Hughes yn gymeriad dymunol, a'i yrfa hyd y terfyn yn lân. Cydnabyddid ef yn forwr medrus yn ei ddydd, ac ymneillduodd o'r môr flynyddoedd yn ôl mewn amgylchiadau cysurus. Hoff ydoedd gan ei gydnabod, ac edrychid arno fel gwr pwyllog ac uchel o ddynoliaeth.
Cymer ei gladdedigaeth le heddyw (dydd Mercher), yr hon fydd anghyhoedd, yn mynwent Penrhos. Cydymdeimlwn a'i blant yn eu galar a'u hiraeth am dad mor ofalus.
Yr Udgorn 05/09/1917
ANGLADD CAPT. D. HUGHES, 17, ALA ROAD.
Dydd Mercher, Medi y 5ed, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o Capt. D. Hughes i orphwys at ei anwyt briod a'i blant yn meddrod y teulu yn mynwent Capel Penrhos. Yr oedd y Captain yn un o rai llariaidd y ddaear.Yr oedd yn ddyn tawel, diabsen, di-ddichell a charedig. Yr oedd yn aelod ffyddlon yn eglwys Salem. Byddai yn myned bob boreu Sabboth i'r Ysgol a gynhelir yn y Cartref ac yn athraw selog yno. Mae ei goffadwriaeth yn berarogl yn y dref. Gedy ddwy o ferched i alaru ar ei ôl, sef Miss M. Hughes a Mrs Williaws, Trefor.
Yr oedd yn bresenol yn yr angladd (yr hwn oedd yn anghyhoedd) Miss Haghes a Mrs Williams (merched); Mrs Jones a Mrs Griffith (chwiorydd); Dr. Edward Hughes, Tonpentre; Mr R. Hughes, Edinburgh; Dr. Hughes, Penclawdd; Mr Griffith, Brynllwyd, Mon; Mri Robert a Richard Jones, Ty'r Ynn, ac O. Jones, Tyddyn Hir (brodyr ynghyfraith); Thomas ac Owen Jones, Caerferch (neiod); Mr Griffith, Ynyscreiau (brawd ynghyfraith); Mr T. Rowlands, Llanerch, a Mr Emrys Williams, Trefor (wyr); Dr. O. Wynne Griffith, Plastan'rallt.
Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parch. T. Williams, Pwllheli. Cynhaliodd aelodau Ysgol Sul Cartrefle gyfarfod coffa am dano foreu Sul diweddaf, a thalwyd teyrnged o barch i'w goffadwriaeth fel cymeriad gwir dda a theilwng i'w efelychu, a hyny o dan deimladau dwys. Siaradwyd gan Miss Jones, Caroline House, Mri Roberts, ceidwad y Ty Robert Roberts, New Street; David Griffith, Hirwaen House, a J. C. Jones, Pretoria, yr arolygwr, yr oll yn dwyn tystiolaeth uchel iddo fel gweithiwr a Christion.
Diolchwyd i Mrs Griffith, Hirwaen House, am wneud wreath mor hardd i'w dodi ar ei fedd.