OBITUARY.

MR GRIFFITH ROBERTS.

After a very brief illness, Mr Griffith Roberts, Ala-road, died on Tuesday, in his 72nd year. For many years he was the acting partner in the firm of Mrs Sarah Ellis and Son, corn and flour merchants, Maes.

When he retired from business a few years ago he married and took up his residence in a new house erected for him in Ala-road.

He was much interested in music, and was precentor at Salem Chapel (and a deacon also) for over 50 years. It was mostly through his efforts and generosity that an organ was installed at the chapel, the first C.M. chapel in Lleyn and Eifionydd to possess an organ. The organ was burnt two years ago, when an incendiary set fire to it and destroyed the whole chapel and its contents. Mr Roberts was one of the members who left Penmount Chapel in 1860 to start a branch church at Salem.

Much sympathy is extended to Mrs Roberts and the three children.

North Wales Chronicle 27/08/1915


GRIFFITH ROBERTS, PWLLHELI.

GANWYD, Ebrill 21ain, 1844 / HUNODD Awst 24ain, 1915.

Blaenor, 1883-1915 / Arweinydd y Canu 1863-19I5.

    Mae eglwys Salem, Pwllheli, fel eglwysi eraill yn gwybod yn dda beth ydyw profedigaethau ond diameu mai un o'r rhai mwyaf ddaeth i'w chyfarfod oedd yr un a gafodd ddwy flynedd yn ôl pan mewn canlyniad i weithred dyhiryn y llosgwyd ei haddoldy hardd i'r llawr. Wynebodd yr aelodau y brofedigaeth yn eofn, atebasant yr alwad, a bellach y mae yr adeilad bron a chael ei gwblhau, a'r adeiladwyr wrthi yn rhoddi y cyffyrddiadau terfynol. Ond pan y maent yn agoshau at orffen y deml wele un o'r blaenoriaid hynaf, ac un o'r rhai anwylaf ar gyfrif ei ffydd, a grymusaf ei ymdrech gyda'r achos yn cael ei orddiwes gan afiechyd, ei gorff cadarn yn dadfeilio, a'i ysbryd yn ehedeg fry i Salem harddach a rhagorach, a thra yr oedd ei gyd-swyddogion a'r aelodau yn trafod agoriad y capel a'r organ, wele Griffith Roberts, y pencerdd, yn cael ei alw draw i'r wlad tu draw i'r llen i ymuno a'r gân nefol, a'r eglwys yn Salem yn cael teimlo colled fawr ar gyfrif symudiad un o'i cholofnau cadarnaf, ac un a lanwai le mor fawr ym mywyd yr eglwys.
    Un o feibion LIeyn oedd Griffith Roberts, a hanai o un o'i theuluoedd parchusaf a mwyaf henafol. Ganwyd ef yn Penyberth, un o ffermydd mwyaf y rhan hon o'r wlad. Yn 1873 rhoddodd y teulu i fyny y fferm a symudodd ef gyda'i frodyr ac un chwaer i fyw i Edge Hill, Pwllheli. Yr oedd un chwaer iddo wedi priodi Owen Ellis, masnachydd blawd, Y Maes, Pwllheli, a phan fu farw Owen Ellis, aeth Griffith Roberts i gynorthwyo ei chwaer yn y fasnach, ac yno y bu ef fyw hyd nes yr ymneilltuodd oddiwrth ofalon masnachol bum mlynedd yn ôl, ac yr aeth i fyw i Trelan - tŷ a adeiladodd iddo ei hun o'r tu allan i'r dref. Er fod llosgiad y capel wedi rhoddi ysgytwad drom iddo, dilynodd y moddion wythnosol yn lled gyson, a'r moddion Sabothol yn hollol ddifwlch hyd Saboth, Gorffennaf 11eg, pryd yr arhosodd adref o oedfa y boreu. Ar y cyntaf ni feddyliodd ei gyfeillion na'r teulu fod afiechyd pwysig arno, ond graddol waethygodd a daeth y diwedd er galar cyffredinol min yr hwyr dydd Mawrth, Awst 24.
    Rhoddwyd ei weddillion i orffwys; angladd anghyhoedd syml fel ag a fuasai ef yn hoffi ym mynwent Penrhos dydd Gwener, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John Hughes, B.A.. B.D., Bangor, a'r Parch. R. O. Williams, Llundain. Yr oedd Griffith Roberts yn gymeriad eithriadol ar lawer cyfrif. Un o feibion natur ydoedd, yn dwyn ei delw ar ei fywyd yn ei symledd a'i naturioldeb. Yr oedd ei wynepryd bob amser yn datgan llafariad ei galon—calon radlon iach, yn curo yn wastad gan wasgar bywyd i'r un cymesuredd yn barhaus. Bywyd llyfn, di-drwst, heb ddim trai na llanw eithriadol ond yn cyflawni rhagorfreintiau a dyledswyddau bywyd yn barhaus o ddydd i ddydd, o fis i fis, ac o flwyddyn i flwyddyn, a hynny bob amser i'r un graddau o drylwyredd a pherffeithrwydd. Fel arweinydd y canu cyflawnodd y rhan honno bron yn gwbl ddifwlch am ddeuddeng mlynedd a deugain. Angenrhaid eglwys a'i gwnaeth yn ganwr a cherddor.
    Daeth cyfnod yn hanes eglwys Rhydyclafdy pan oedd ef yn 18 mlwydd oed, nad oedd yno arweinydd y canu na golwg am un. Trodd Griffith Roberts ati o ddifrif er nad allai ganu, ac ymrodd i ddysgu canu ac i feistroli cerddoriaeth. Treuliai oriau yn feunyddiol mewn paratoad, a gwasanaethodd yr eglwys honno gyda'r gwaith hwn am dros ddeng mlynedd. Pan ddaeth i Salem, Pwllheli, drachefn, galwyd arno yno eto ymhen deufis ar ôl ei ddyfodiad i wneud yr un gorchwyl. Taflodd ei hun i'r gwaith, ymrodd i ddiwyllio y ganiadaeth i'r fath raddau fel y credai lawer iawn yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf nad oedd gwell arweinydd canu cynulleidfaol yng Nghymru. Bu yn arwain y canu yn Sassiynau Pwllheli am gyfnod maith - mewn pymtheg o Sassiynau ni gredwn, ac ni bu yr un yn cyflawni y gwaith hwnnw yn yr awyr agored y fwy effeithiol. Meddai lais cryf a chlir, a datganai mewn tonyddiaeth bur a chydag arddull chwaethus. Priodolai ei Iwyddiant mewn purdeb tonyddiaeth i'r ffaith ei fod wedi treulio llawer iawn o amser gydag offeryn bychan adref. Credai ym mherffeithrwydd Llyfr Toniau presennol y Cyfundeb, ac ym mhriodas y Tonau a'r Emynau, ac ni welid ef byth yn troi dalen am don arall. Gwasanaethodd fel trysorydd y weinidogaeth o'r flwyddyn 1886 hyd ei farwolaeth, ac hefyd fel cyhoeddwr am tua phymtheng mlynedd.
    Am flynyddoedd lawer hefyd ni welid ei le yn wag mewn unrhyw gyfarfod perthynol a'r eglwys. Cyflawnai yr oll o'i Wasanaeth gyda'r un mesur o sel ac aiddgarwch nes argyhoeddi pawb fod yr oll yn codi oddiar awydd unplyg am wasanaethu yr achos. Pa beth bynnag a wnelai teimlem ei fod yn gwneud y cyfan gyda'i holl egni a chyda'r un brwdfrydedd. Pan yn annerch yr eglwys yn y seiat noson waith neu nos Sul byddai yn berffaith naturiol a dirodes, a byddai ei sylwadau yn darawiadol. Yr oedd ganddo besychiad awgrymiadol a nodweddiadol, a theimlid fod hyny yn ychwanegu at werth yr hyn a ddywedai. Mynegai yr hyn a gredai yn hollol ddifloesgni, ac ni byddai unrryw un yn teimlo digter tuag ato, er hwyrach wedi cael cernod drom ganddo, gan nad oedd malais na llid yn cael eu coledd yn ei galon. Yr oedd ugeiniau o Ddiarhebion (Cymreig a Beiblaidd) yn ei gof, a phan godai yn fyrfyfyr bron yn ddieithriad gwnai ddefnydd mynych ohonynt. Defnyddiai bethau cyffredin bywyd i yru y wers adref. Er dangos ei ddull cartrefol o siarad, rhoddaf un enghraifft.            
    Cwynai fod yr aelodau yn fylchog yn eu cyfraniadau misol. Rhaid i'r darllenydd gofio fod pesychiad awgrymiadol yn pwysleisio y brawddegau. "Nid cwyno 'rydw'i," meddai, "eich fod yn rhoi rhy fach eisiau i chi roi bob mis sydd arnaf. Fe fyddai yn ysgafnach o lawer i chwi, ac fe fyddai yn well i ninnau. Be ddoi o'r achos, pe byddai pawb yn talu ar ddiwedd y flwyddyn. Fe fuasai wedi marw a'r pregethwyr wedi mynd i'r workws. Meddyliwch beth ddeuai ohonoch chi pe byddai i'r Brenin Mawr gadw eich bwyd hyd ddiwedd y flwyddyn a'i roddi yn un lot yr adeg honno. Fe fyddach wedi marw bob un. Cofiwch hynny ynglyn ag achos y Brenin Mawr, a rhoddwch yn fisol da chi, ac fe gewch allan y gellwch roddi ychwaneg nag yr oeddych wedi meddwl." Drwy ymadroddion syml fel hyn cariai y gynulleidfa gydag ef mewn ysbryd hapus gan guro yr hoelen adref bob tro.
    Yr oedd yn ddirwestwr eiddgar a mynych y gwelwyd ef yn sefyll i fyny yn y capel, ac yn sythu a chyda pesychiad yn dweyd, "Dyma chi specimen go dda o ddirwestwr a thestimonial go dda i oes o ddirwestiaeth." Yr oedd yn esiampl ardderchog yn ei gyfraniadau a'i roddion at yr achos mawr a phob achos da. Yr oedd Duw wedi ei fendithio a'i lwyddo yn dymhorol a chyfranai yntau yn hael a pharod. Wrth gwrs at yr achos yn Salem ac at achosion cyfundebol y cyfranai fwyaf. Yr oedd ei sel Gyfundebol yn ddiarhebol, a'i ffyddlondeb i'r Cyfarfod Misol a'r Sassiwn yn ddi-ball. Bu yn cynrychioli y Cyfarfod Misol mewn Sassiynau ac yn y Gymanfa Gyffredin ol. Yn ystod blynyddoedd diweddaf ei fywyd nid oedd yn rhoddi ei bresenoldeb yn y Cyfarfod Misol, ond nid oedd hynny yn lleihau dim ar ei ffyddlondeb iddo na'i sel drosto.
    Pan adgyweiriwyd y capel yn 1893 yr oedd y brodyr yn awyddus, am gael organ, ond yr oeddynt yn methu gweled eu ffordd yn glir i brynu un ar y pryd, gan fod costau y capel wedi rhedeg yn uchel. Yr oeddis bron wedi penderfynu cau yr organ chamber i fyny hyd adeg ddyfodol pan y dywedodd Griffith Roberts, y pen-cerdd. "Yn hytrach na chau y chamber i fyny, ac felly ychwanegu at y gost eto, fe roddaf fi fenthyg £500 at brynu organ yn ddi-log hyd nes y gwel yr Eglwys ei ffordd yn glir i'w talu". Felly fu, prynwyd yr organ, a bu y £500 yn ddi-log am bumtheg mlynedd. Cofier ei fod yn cyfrannu yn haelionus at y ddyled ar wahan i hyn. Yn yr un modd gyda achosion Cyfundebol gwyddem am enghreifftiau pan y bu ei rodd hael ef yn fodd i roddi ysbrydiaeth mewn eraill a rhoddi sel o newydd yn y rhai o'i amgylch. Ond nid yw y pethau hyn ond allanolion. Yr oedd pethau eraill dyfnach yn nodweddu Griffith Roberts. Yr oedd yn ddyn yn ofni Duw, yn caru Iesu Grist ac yn byw i ryngu ei fodd. Yr oedd yn ddyn duwiol iawn.
    Yr oedd yn gwneud y pethau a nodais yn barod er mwyn ac i Iesu Grist. Cred pawb a ddaeth i gyffyrddiiad, ag ef ynglyn a'i fasnach ydoedd ei fod yn ddyn duwiol diamheuol ac yn y cylchoedd masnachoI gweithredai yn unol ag egwyddorion y Deyrnas, a hynny mewn ffordd hollol ddiymhongar. Nid duwioldeb pendrist ond duwioldeb ysgafn a dedwydd. Darllenai lawer ar y Beibl ac yr oedd yn meddu gwybodaeth lwyr iawn ohono.
    Yn agosaf at y Beibl deuai y Llyfr Emynau, ac yr oedd yn berffaith gyfarwydd a phob emyn, ia hoffem ei weled aml i adeg yn tynnu allan ohono drysorau newyddion. Colled fawr i Salem fvdd ei golli ar gyfrif y gwasanaeth mawr a wnai ynglyn a'r swyddi a lanwai, ond nid ydym yn camgymeryd wrth ddweyd mai y golled fwyaf fydd am dano ar gyfrif ei ffydd gref a'i lwyrymddiriedaeth yn ei Arglwydd, ac am ei weddiau cyson, aml a thaer ar ran yr achos ac ar ran y dref. Ond ehedodd fry i'r Salem lan i ganu gyda'r seintiau gan newydd.
    Pan oeddym dydd Gwener yn nifer fechan y canu ar lan ei fedd yn nhawelwch y wlad yn Penrhos, yng ngolwg Penyberth cartref ei, faboed—ehedai ein dychymyg, a thybiem fod gwen nefolaidd ar ei wynepryd wrth glywed mor soniarus oedd can y pererinion wedi iddynt gyrraedd adref heb ddim o'r discord a anafai ei ysbryd tra ar y ddaear, ac yn uno i ganu ac i ganmol, a'i fod yn uno gyda ninnau pan ganem
"Ni cheir diwedd
Byth ar swn y delyn, aur."
Diolch am ei ysbrydiaeth. Diolch am ei esiampl. Diolch am ei naturioldeb. Diolch am ei ganu, ond diolch uwchlaw yr oll am ei ffydd ddiderfyn.
    Gadawodd briod a fu yn nodedig o dyner a gofalus ohono, a thri o blant ac un brawd i alaru ar ei ôl. Nawdd y nef fyddo drostynt. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn Salem nos SuI, pryd y pregethodd y Parch. J. E. Hughes, M.A., B.D., Caernarfon, ac y canwyd anthemau ac amryw emynau priodol.

D. CARADOG EVANS.

Y Cymro 01/09/1915


MARW BLAENOR.

Nos Fawrth, Awst 24ain, wedi ychydig wythnosau o waeledd, bu farw Mr. Griffith Roberts, Trelan, Ala Road (neu fel yr adnabyddid ef oreu, Griffith Roberts, Y Maes), yn ei 71 mlwydd oed.

Bu Mr. Roberts yn cario masnach flawd yn mlaen yn y Maes am flynyddau lawer, a bu yn llwyddianus iawn. Ychydig flynyddau yn ôl ymneillduodd, ac aeth i fyw i Trelan, Ala Road. Yr oedd yn ŵr dylanwadol, gonest, a charedig iawn yn y dref a'r wlad. Yr oedd yn feddianol ar arddull wreiddiol a dirodres, yr hyn ai gwnai yn hoffus gan bawb. Pan ddaeth i'r dref gyntaf ymaelododd ag Eglwys Salem, a gwnaed ef yn godwr canu, yr hon swydd a ddaliodd am gyfnod o 42 mlynedd. Hefyd bu yn ddiacon am y cyfnod maith o 42 mlynedd, ac am ddeng mlynedd cyn hyny yn Rhydyclafdy.

Gedy wraig a thri o blant i alaru ar ei ôl, a'r rhai y cydymdeimlir yn fawr. Cymerodd yr angladd le ddydd Gwener (anghyhoedd) yn mynwent Penrhos. Gwasanaethwyd gan y Parchn. John Hughes, B. D., Bangor, ac R. O. Williams, Llundain.

Y prif alarwyr oeddynt, Mri. R. O. Roberts (mab), John Roberts (brawd), Capten R. O. Williams (brawd-yng- nghyfraith), ac Ellis O. Roberts (nai). Hefyd yr oedd y rhai a ganlyn yn bresenol - Dr. Jones Evans (Maer); Mri. R. W. Roberts, Penrhynydyn William Jones, Towyn Lewis Jones, Preswylfa; Tom Owen, Maes; Thomas Denman, Maes; Capten John Evans, Isallt; J. T. Evans, Maes a Mr. David Williams, Pwlldefaid, yr hwn a ofalai am y trefniadau ynghyd a swyddogion Eglwys Salem, yn cynwys Mri. J. E. Hughes, J. G. Jones, O. Robyns Owen, W. Eifl Jones, James Griffith, Robert Murray, Hugh Pritchard, John Rowlands, Robert Parry, D. Caradog Evans, ac R. Barker Jones.

Nos Sul cynhaliwyd gwasanaeth coffa yng Nghapel Salem, pryd yr aed trwy raglen gerddorol dan arweiniad Mr. D. Caradog Evans, a phregethwyd gan y Parch. J. E. Hughes, M.A., B.D., Caernarfon.

Yr Udgorn 01/09/1915


OBITUARY.

MR GRIFFITH ROBERTS.

The funeral of Mr Griffith Roberts, flour and corn merchant, Ala-road, took place today week. The body was conveyed for burial to Penrhos, the Revs. John Hughes, Bangor, and R. O. Wil- liams, London, officiating.

Amongst the mourners present were: Messrs R. O. Roberts (son), John Roberts (brother), Dr. R. Jones Evans (Mayor), R. O. Williams (brother-in-law), Ellis O. Roberts (nephew), R. W. Roberts, Penrhydyn; William Jones, Tywyn; Lewis Jones, Preswylfa; T. Owen, Maes; T. Denman, John Evans, Isallt; J. T. Evans, Maes; David Williams, Pwll Defaid; and the following deacons of Salem: Messrs J. G. Jones, W. Eifl Jones, R. Barker Jones, D. Caradog Evans, James Griffith, Hugh Prichard, Robert Murray, J. E. Hughes, Robert Parry, John Rowlands, and O. Robyns Owen.

Last Sunday evening a memorial service was held, the musical part being under the direction of Mr D. Caradog Evans. The Rev. John Hughes preached.

North Wales Chronicle 03/09/1915