MARWOLAETH.

Dydd Mawrth bu farw yr hen gymeriad tawel a hoff Mr John Roberts, Trelan (Edge Hill gynt), ac efe yn 79 mlwydd oed. Brawd ydoedd i'r diweddar Mr Griffith Roberts, y Maes. Bu fyw yn dawel a neillduedig am oes faith, a cheid gair da iddo gan bawb.

Claddwyd ef ddydd Gwener yn mynwent Penrhos. Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, The Elms.