Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd dydd Mercher gerbron Mri. J. G. Jones, W. Anthony, J. Hughes Parry, Dr R. Jones Evans.RHYBUDDIO PLANT DRWG.
Cyhuddwyd dau fachgen o'r enwau George Green, High Street, a Llewelyn Thomas, Lleyn Street, o ladrata eirin o berllan berthynol i Mr. Houghton Davies, cyfreithiwr, yn Ala Road. Rhoed tystiolaeth gan y Rhingyll Lloyd i'r perwyl iddo weled y bech gyn yn y berllan tua chwarter wedi unarddeg foreu Sul. Dywedai Mr Houghton Davies fod plant yn tori i'w berllanau vn Ala Road, a Llwynffynon. ac yn malu y coed a'r cloddiau, ac yn lladrata ffrwythau.Nid oedd yn pwyso ond yn unig am i'r fainc roddi gwers iddynt. Dywedodd yr Henadur Anthony ei fod yn falch fod yr heddlu wedi cymeryd y mater mewn llaw. Yr oedd y Cyngor Trefol yn cwyno ers tro fod bechgyn o'r fath yn trespasu ar eiddo pobl yn y dref. Cwynai y dyn oedd yn gofalu am yr Happy Valley fod y plant yn tori drosodd ac yn meddianu yr eisteddleoedd goreu.
Sicrhai y bechgyn os y deuent ger eu bron drachefn yr anfonid hwy i'r carchar.
Sylwodd Dr. Jones Evans. Maer Pwllheli, mai yr agwedd waethaf ar yr achos ydoedd en bod yn gwneyd hyn ar foreu Sul pryd y dylasent fod yn yr addoldai. Ategodd yr Arolygydd Owen mai George Green oedd y bachgen oedd wedi cael bathodyn a rhoddion yn ddiweddar am achub ci yn y porthladd.
Rhwymwvd hwy drosodd yn y swm o £5 i iawn ymddwyn.