MEWN OEDRAN TEG.

Ddydd Sadwrn diweddaf, ar ol gwaeledd maith, bu farw Mrs Jane Thomas, priod Mr John Thomas, Lleyn Street, a hi yn 68 mlwydd oed.

Yr oedd Mrs Thomas yn yr amser a fu yn dra hysbys yn mysg y trigolion oherwydd ei hysbryd bywiog a chymdeithasol, ond er's blwyddi bellach ymneillduodd o fywyd prysur i ddioddef gwaeledd hir a blin. Yr oedd yn wraig lawen a charedig, a magodd dyaid o blant yn ofalus.

Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd gyhoeddus, yn mynwent Denio ddydd Mercher.

Cydymdeimiwn a'i phriod unig ac a'r plant yn eu galar a'u hiraeth ar ei hol.

Yr Udgorn 27/06/1917