WEDI EI GLWYFO.

Yr wythnos ddiweddaf caed hysbysrwydd fod Private Alf Jones, mab hynaf Mr, a Mrs. Ellis P. Jones (Penlon Bakery gynt), Caerdydd, wedi ei glwyfo ar faes y gwaed yn Ffrainc.

Ymddengys ei fod erbyn hyn wedi dod drosodd i ysbyty yn Portsmouth. Derbyniodd ei niweidiau mewn brwydr ffyrnig ymladdwyd yn ddiweddar yno.

Llanc gwylaidd a gobeithiol yw Alf, a dymunwn iddo adnewyddiad buan i'w gynefin iechyd.

Yr Udgorn 29/05/1918